Tri wedi'u hanafu'n ddrwg ar ôl ffrwydriad nwy mewn tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl, gan gynnwys dau o blant, wedi'u hanafu yn dilyn ffrwydriad nwy mewn tŷ brynhawn Mercher.
Bu'n rhaid cau un stryd ym mhentref Blaendulais yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn dilyn y digwyddiad.
Dywed yr heddlu fod un oedolyn a dau o blant wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Cafodd nifer o eiddo a cherbydau eu difrodi hefyd, meddai Heddlu'r De.
Mae pedwar criw tân ac ambiwlans awyr Cymru yn dal yno ar hyn o bryd.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn sawl adroddiad o ffrwydriad mewn adeilad yn Heol Eglwys am 14:05.
"Mae'r gwasanaethu brys yn dal ar y safle ac rydym yn gofyn i bobl osgoi'r ardal ar hyn o bryd," meddai'r heddlu.
Ambiwlans awyr
Mae'r plant sydd wedi eu hanafu wedi eu cludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Southmead ym Mryste, ac mae'r oedolyn wedi ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Mae'r ffordd ar gau ac mae pob wedi gorfod gadael 14 eiddo cyfagos.
Mae Cyngor Nedd Port Talbot wedi agor canolfan orffwys i bobl fydd yn cynnig cefnogaeth i drigolion.
Diolchodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Rob Jones i'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym, gan ddweud fod y cyngor yn barod i gynnig pa bynnag gymorth oedd ei angen.
"Mae fy meddyliau a meddyliau fy nghydweithwyr gyda'r rhai gafodd eu hanafu yn y ffrwydriad", meddai.
"Rwy'n gwybod fod Blaendulais yn gymuned glos ac fe fydd llawer yn teimlo cymysgedd o sioc a thristwch ar yr adeg yma."
Mae swyddogion yn ymchwilio i achos y ffrwydriad.