Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cerflun HM Stanley
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi pleidleisio dros roi cyfle i'r cyhoedd benderfynu be ddylid ei wneud ynghylch cerflun dadleuol yng nghanol tref Dinbych.
Mae dros 7,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am gael gwared ar y cerflun o'r anturiaethwr Henry Morton Stanley yn sgil yr ymgyrchu diweddar dros gydraddoldeb i bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME).
Mewn ymateb i alw tebyg, fe benderfynodd cynghorwyr yn Llanelwy i gadw cerflun yn ei goffa yn fanno, ac i ychwanegu mwy o gyd-destun yn y geiriad sydd arno.
Dywed Cyngor Tref Dinbych fod aelodau wedi pleidleisio dros gynnig "i'r mater fynd i ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn ddiogel gwneud hynny gan ystyried cyfyngiadau cyfredol Covid-19".
Cafodd y "gwrth-gynnig" hwnnw ei gefnogi mewn cyfarfod ar-lein o chwe phleidlais i bump, mewn ymateb i gynnig arall "yn gofyn am gael gwared â'r cerflun ar unwaith".
Bydd y cyngor yn cyhoeddi mwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein ar ôl i'r cyfyngiadau cloi gael eu codi.
'Pleidlais ddemocrataidd'
"Mae'n rhaid iddo fod yn bleidlais ddemocrataidd i bobl Dinbych, boed y canlyniad yn un dymunol ai peidio," meddai maer Dinbych, y Cynghorydd Gaynor Wood-Tickle.
Roedd yna awgrym yn ystod y cyfarfod ar-lein i symud y cerflun i leoliad arall, fel amgueddfa, at ddibenion addysg.
Roedd yna sylw hefyd i farn cyfranwyr allanol, gan gynnwys hanesydd o'r Congo, Norbert Mbu-Mputu, sy'n dweud fod Stanley "yn ddyn ei gyfnod" na ddylid ei ystyried "yn ddihiryn".
Dywedodd y Cynghorydd Rob Parkes fod mwyafrif yr ebyst y mae wedi'u derbyn yn gwrthwynebu cadw'r cerflun.
"Mae llygaid y byd arnon ni ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir," meddai.
Daeth penderfyniad Cyngor Tref Dinbych oriau wedi i gynghorwyr yn Llanelwy bleidleisio'n unfrydol i gadw obelisg yn coffáu Stanley yn fanna wedi i ddeiseb yn gwerthwynebu'r cerflun ddenu 1,100 o enwau.
Ond fe wnaethon nhw gytuno i sefydlu gweithgor i ystyried addasu'r wybodaeth ar y gofeb.
Mae Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ymhlith y rhai sy'n dadlau o blaid cael gwared ar y ddau gerflun yn Sir Ddinbych.
Mae'n dweud fod Stanley - enw genedigol, John Rowlands - wedi "dangos dim parch at frodorion Affrica" wrth i Wlad Belg "gaethiwo poblogaeth gyfan" i gynhyrchu rwber.
Roedd yna wrthwynebiad o'r cychwyn pan osodwyr y cerflun tu allan i lyfrgell Dinbych yn 2011.
Fe wnaeth dros 50 o academyddion, awduron a ffigyrau amlwg arwyddo llythyr gan ddadlau fod Stanley'n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, ac o gynorthwyo gwladychu a chaethwasiaeth yn Affrica.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020