Toriadau i gyllideb CNC 'ddim yn gwneud synnwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyflawni eu dyletswyddau gyda thoriad o £7.5m yn gwbl afresymol.
Dyna'r rhybudd wrth i elusennau sy'n cyd-weithio â'r corff amgylcheddol hefyd fynegi pryder am doriadau Llywodraeth Cymru, yn sgil pandemig Covid-19.
Yn ôl Llŷr Gruffydd AS, llefarydd dros yr Amgylchedd i Blaid Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried.
"Mae rhywun yn cydnabod wrth gwrs fod yna argyfwng iechyd ac wrth gwrs fod yn rhaid i'r Llywodraeth ymateb ym mhob ffordd posib i fynd i'r afael â Covid-19," meddai.
"Ond mae'r Llywodraeth hefyd yn dweud wrthon ni fod yna argyfwng hinsawdd ac ecolegol, a'r corff sy'n arwain yn hynny o beth yw Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Ry'n ni'n gweld canlyniadau'r newid hinsawdd yna trwy'r llifogydd ry'n ni di gweld yn y blynyddoedd diwetha', felly dyw e ddim yn gwneud synnwyr yn fy marn i ei bod yn torri'r gyllideb i'r graddau yma, oherwydd mae'n mynd i olygu yn anochel nad yw CNC yn mynd i fedru cyflawni llawer o'u dyletswydde."
Mae elusennau sy'n cyd-weithio'n agos â CNC yn poeni y gallai'r toriadau effeithio ar eu prosiectau nhw hefyd.
Mae Gareth Waters yn wirfoddolwr gydag Afonydd Cymru sy'n cynnal a chadw a gwarchod afonydd rhag llygredd.
Dywedodd: "Ni'n gweithio 'da pobl sy'n rheoli y tir, gweithio'n agos 'da ffermwyr. Heb yr arian a chefnogaeth gan CNC, falle na fydde'r prosiecte yn mynd yn eu blaen, a wedyn fydde dim diogelwch ar ein hafonydd am y genhedlaeth nesaf.
"Yn y dyfodol, ni angen cefnogaeth CNC ar gyfer y gwaith ni'n 'neud."
Mae CNC yn rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau.
Fe ddywedon nhw mewn datganiad: "Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried hyn ac effeithiau eraill Covid-19 ar ein cyllidebau, yn enwedig ar ein hincwm rheoleiddiol, masnachol a phren a byddwn yn adolygu ein cyllideb a'n cynllun busnes yng ngoleuni hyn yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd."
Mae CNC yn rheoli coedwigoedd ar dir cyhoeddus a rheoleiddio'r diwydiant pren.
Oherwydd y cyfnod clo, mae'r incwm iddyn nhw yn y maes hwn wedi disgyn yn sylweddol.
Mae hynny yn bryder ychwanegol, yn ôl Llyr Gruffydd AS: "Mae disgwyl i CNC wneud colledion sylweddol - hyd at £15m yn ôl un ffigwr dwi di weld - trwy eu gweithgaredd yn y sector coed.
"Mae colli £7.5m yn annisgwyl yn un peth, ond os rowch chi hynny mewn cyd-destun ehangach, ry'n ni'n sôn am ffigwr sydd yn nes at £20m o bosib, ac mae hynny wrth gwrs yn doriad cwbl frawychus i unrhyw fudiad."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod ail-flaenoriaethu cyllidebau yn angenrheidiol oherwydd sefyllfa ddigynsail Covid-19.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydweithio'n agos â CNC i sicrhau bod ganddynt yr hyblygrwydd yn eu cyllideb.... Mae'n rhaid inni gofio bod y gostyngiad hwn mewn cyllid craidd yn berthnasol i 2020-21 yn unig, ac rydym wedi cynyddu cyllideb llifogydd CNC eleni.
"Tra bod pob corff cyhoeddus o dan yr un pwysau ariannol, byddwn yn parhau i edrych ar y pwysau ariannol yn ogystal â'r cyfleoedd cyllido ar gyfer CNC dros y flwyddyn a ddaw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020