Beth yw eich tartan lleol chi?
- Cyhoeddwyd
Er yn cael ei gysylltu gan amlaf gyda'r Alban, mae yna bron i 50 o batrymau tartan sydd yn cael eu hystyried yn rhai 'Cymreig'.
Mae rhain yn cynnwys rhai ar gyfer cyfenwau nodweddiadol Gymreig fel Griffiths, Jones neu Owen; un i'n nawddsant, Dewi Sant; ac mae hyd yn oed un swyddogol Senedd Cymru!
Ond nid oedd Jack Capron o Gaerdydd yn meddwl fod hynny'n ddigon, ac mae wedi mynd ati i ddylunio patrymau tartan, neu frithwe, newydd - un i bob sir yng Nghymru.
"O'n i wedi i dylunio'r tartan ar ôl gweld Nicola Sturgeon yn gwisgo masg tartan, ac wedi dysgu am dartan Cymreig," meddai, wrth egluro'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r patrymau.
Tartan Powys yw'r unig dartan rhanbarthol sydd ar gael eisoes, a 'bach o hwyl' oedd hi i Jack, i geisio dylunio patrymau tartan newydd i weddill y siroedd, oherwydd ei fod yn batrwm mae'n ei hoffi yn fawr.
"Dwi'n mwynhau gwisgo tartan gan fod y patrwm mor syml, ond mae yna filoedd o gyfuniadau posib."
Fodd bynnag, mae'n teimlo fod yna le yn niwylliant Cymru i batrymau tartan, ac er ei fod yn dradoddiadol yn cael ei gysylltu â'r Alban, hoffai Jack weld hyn yn newid:
"Fel cyd-Geltiaid, mae gennym ni lawer o hanes tebyg, sydd yn gallu cael ei weld yn ein hieithoedd a dathliadau, fel Calennig a Hogmanay. Dwi'n credu dylwn ni hefyd rannu'r defnydd yma, er ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth Albanaidd.
"Hoffwn weld mwy o batrymau tartan Cymru fel y gall mwy o bobl eu gwisgo ac y gallwn ddatblygu tartan Cymreig. Dwi'n meddwl y byddai'n helpu i ledu hunaniaeth Gymreig ar draws y byd.
"Oes, mae yna wisg Gymerig i ferched, ond byddwn i'n hoffi gweld gwisg genedlaethol i ddynion hefyd - efallai mai tartan all hwnnw fod!"
Nid hap a damwain ydi'r lliwiau yn y patrymau - mae Jack wedi mynd i ymdrech i sicrhau fod y lliwiau yn addas ar gyfer pob rhanbarth.
"Er mwyn cael y lliwiau cywir, mi wnes i ddwyn ysbrydoliaeth gan yr arfbeisiau neu faneri y rhanbarthau, a dewis y prif liwiau.
"Er enghraifft y prif liwiau ym maner Caerdydd yw gwyn, coch, gwyrdd ac ychydig o binc. Felly mi roddais i nhw at ei gilydd, a symud y lliwiau o gwmpas, tan i mi ddod at batrwm o'n i'n ei hoffi."
Mae Jack yn gobeithio y byddai'r patrymau yma yn dod â phobl at ei gilydd.
"Byddai tartan lleol yn helpu pobl i greu cyswllt â'u rhanbarth a'u cymuned, ac yn yn gwneud tartan yn fwy accessible i bobl sydd eisiau ei wisgo, er yn ôl traddodiad, mae ond yn gallu cael ei wisgo gan deuluoedd penodol."
Mae'r patrymau wedi cael ymateb da ar Twitter, dolen allanol, gyda nifer yn dweud y byddan nhw wrth eu bodd yn gwisgo patrwm eu hardal. A fydd modd gwneud hynny tybed?
"Mock-ups yn unig ydyn nhw," meddai Jack, "ond os mae pobl yn eu hoffi, bydda i'n eu cyflwyno [i'w cofrestru'n swyddogol]."
Felly, pwy a ŵyr - efallai y byddwch chi'n fuan yn gallu dangos eich cariad tuag at eich ardal trwy ddangos eich coesau...
Hefyd o ddiddordeb: