Ryanair yn gwrthod cais Llywodraeth Cymru i beidio hedfan
- Cyhoeddwyd
Bydd awyrennau Ryanair yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd ddydd Gwener er gwaethaf cais gan Lywodraeth Cymru mewn llythyr i'r cwmni yn gofyn iddyn nhw eu canslo.
Mae'r cwmni yn hysbysebu hediadau i Malaga, yn Sbaen a Faro, ym Mhortiwgal, o Gaerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "nid ydym yn credu y dylai'r hediadau yma ddigwydd" yn sgil y cyngor i aros o fewn pum milltir oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Ryanair: "Rydym yn gweithredu yn ôl y drefn arferol ar 3 a 4 Gorffennaf gyda channoedd o bobl Cymru'n teithio adref o wledydd gyda chyfraddau [coronafeirws] is na'r DU."
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd y byddai cwmnïau'n "dechrau'n araf i ailddechrau hediadau gan gynyddu ym mis Awst".
Mae gofyn i bobl yng Nghymru aros yn lleol ac i beidio teithio mwy na phum milltir, yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl y bydd y cyfyngiad yna'n cael ei godi o ddydd Llun nesaf, 6 Gorffennaf.
O'r un diwrnod fe fydd pobl yn Lloegr yn medru teithio i rhai o wledydd Ewrop heb orfod treulio 14 diwrnod mewn cwarantîn pan fyddan nhw'n dychwelyd, ond does dim penderfyniad tebyg wedi ei wneud yng Nghymru.
Angen esgus rhesymol i deithio
Mae canllawiau Cymru'n dweud na ddylai pobl deithio ymhellach na phum milltir "oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol".
Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Er bod yna resymau teilwng pan bod hediadau'n digwydd, mae'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn i ddilyn y rheolau."
Dylai pob teithiwr sy'n dod i Gymru o dramor hunan ynysu am 14 diwrnod.
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi bod ar agor gydol y pandemig er mwyn cefnogi hediadau allweddol gan gynnwys cludo nwyddau meddygol a chleifion.
Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau'r llywodraeth a gweithio'n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn cadw diogelwch ein tîm ni a'n cwsmeriaid fel blaenoriaeth."
'Dewis clir'
Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52m yn 2013.
Golyga hynny, medd Aelod Ceidwadol Senedd Cymru yn rhanbarth Canol De Cymru, Andrew RT Davies fod gweinidogion â'r hawl i stopio'r hediadau "pe tasen nhw wirioneddol eisiau hynny".
Dywedodd fod y sefyllfa "wedi tanlinellu anghysondeb pellach ym mholisi cyfnod clo Mark Drakeford, sy'n cadw busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru ar gau, ond yn cefnogi'r diwydiannau cyfatebol dramor.
"Mae gan Mark Drakeford a'i weinidogion ddewis clir: cael gwared ar y rheol pum milltir a chaniatáu i fusnesau ailagor yng Nghymru, neu gau'r maes awyr, sydd yn nwylo cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020