Pryder am 60 o swyddi argraffu yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Cambrian PrintersFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cambrian Printers wedi bod yn argraffu ers 160 o flynyddoedd

Mae yna bryder bod cwmni argraffu yn bwriadu symud hyd at 60 o swyddi o Aberystwyth i'r de-ddwyrain.

Cafodd Cambrian Printers, sydd wedi bod yn argraffu ers 160 o flynyddoedd, ei brynu gan argraffwyr Pensord yn 2017.

Mae cwmni Pensord wedi ei leoli yng Nghoed-duon ger Caerffili.

Dywedodd yr Aelod Senedd dros Geredigion, Elin Jones fod gweithwyr yn Llanbadarn Fawr wedi dweud wrthi bod y cwmni'n bwriadu symud y gwaith i'r Coed Duon "ymhen mis."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y cwmni'n "ystyried pa newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i sicrhau parhad y busnes."

'Canolog i economi Ceredigion'

Mewn datganiad ar ei thudalen Facebook, dywedodd Elin Jones AS: "Rwyf wedi derbyn cadarnhad gan weithwyr yn y Cambrian Printers bod y cwmni wedi eu hysbysu ddydd Llun y byddai gwaith cynhyrchu ar y safle yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth yn cael ei drosglwyddo i'r Coed Duon ymhen mis.

"Ers 2017 mae'r cwmni wedi bod yn eiddo i Pensord Printing.

"Mae'r gweithlu o tua 60 yn gofidio'n fawr am y newyddion hyn ac nid ydynt mewn unrhyw sefyllfa i symud 100 milltir i ffwrdd i barhau i weithio i'r cwmni. Mae gan nifer ohonynt deuluoedd a chartrefi yma yng Ngheredigion.

"Mae'r sector argraffu a chyhoeddi yn ganolog i economi Ceredigion ac mae'r Cambrian Printers yn gwmni blaenllaw a hir-sefydlog yn y sector argraffu yng Nghymru. Mae sgiliau'r gweithlu hwn yn rhai gwerthfawr iawn.

"Rwyf wedi codi'r mater hwn ar frys gyda Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, gan ofyn iddo weithio gyda'r Cyngor Sir i geisio cadw'r swyddi gwerthfawr hyn yng Ngheredigion."

'Megis dechrau cyfathrebu â gweithwyr'

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Mae enw Cambrian Printers wedi bod yn gonglfaen i gymuned fusnes Aberystwyth ers blynyddoedd lawer.

"Prynwyd y cwmni ychydig dros dair blynedd yn ôl gyda phenderfyniad i barhau â'r traddodiad hwnnw ymhell i'r dyfodol ac er gwaethaf Brexit ac amodau masnachu anodd dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi llwyddo i wneud cynnydd ac wedi dychwelyd y cwmni i elw yn 2018 a 2019.

"Rydym yn sicr nad ydym ar ein pennau ein hunain yn dweud bod yr argyfwng sy'n ein hwynebu yn awr, yn sgil coronafeirws yn fynydd i'w ddringo ac felly rydym yn ystyried pa newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i sicrhau parhad y busnes.

"Megis dechrau y mae cyfathrebu â gweithwyr a gan nad ydym eto wedi cychwyn ymgynghoriad ffurfiol â'r gweithwyr, ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."