Mwgwd a menig: Siopau trin gwallt yn paratoi i ailagor
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth fusnesau trin gwallt i baratoi i ailagor ar gyfer 13 Gorffennaf.
I gwsmeriaid, bydd yn brofiad gwahanol gyda chanllawiau glendid a diogelwch llym yn eu lle.
Mae steilyddion trin gwallt yn dweud y bydd eu cleientiaid yn gorfod dod i arfer â llawer o fesurau newydd, o bosib yn cynnwys:
Gwisgo mwgwd a menig;
Defnyddio hylif hylendid wrth gyrraedd salon;
Cymryd tymheredd cleient;
Glanhau salon rhwng pobl cleient;
Talu gyda cherdyn di-gyffwrdd yn unig.
Mae Jackie Turner yn rhedeg Salon Chiron yng Nghydweli.
Fel ym mhob salon gwallt bellach, bydd angen trefnu apwyntiad.
"Wrth ddod i mewn drwy'r drws bydd deunydd golchi dwylo ar gael yn syth. A bydd offer PPE ar gael i gwsmeriaid sy' heb rai eu hunain, ond bydd cost ar gyfer y nwyddau hynny," meddai.
"Dyden ni ddim yn mynd i gynyddu ein prisiau am drin gwallt. Ond bydd angen talu am y PPE. Felly ry'n ni'n cynghori pobl i ddod â masgiau a menig gyda nhw i'r salon."
Mesur tymheredd
Bydd prosesau eraill yn eu lle hefyd er mwyn gwarchod y staff a chwsmeriaid.
"Byddwn ni'n gofyn i gwsmeriaid lenwi ffurflen a fydd yn nodi cyflwr eu hiechyd ar y pryd.
"Byddwn ni hefyd yn mesur eu tymheredd. Dyw hynny ddim yn ofynnol, gyda'r canllawiau, ond ry'n ni wedi penderfynu gwneud hynny, gan y byddwn ni eisoes yn mesur tymheredd y staff bob dydd."
Pan ddaw'r cyfarwyddyd cadarn gan Lywodraeth Cymru, bydd Salon Chiron yn barod i agor y drysau ar 13 Gorffennaf.
Mae Jackie Turner yn credu bod canllawiau Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon clir.
Ac mae hi wedi cynnal diwrnod hyfforddiant gyda'i staff yr wythnos ddiwethaf, er mwyn asesu a rhagweld unrhyw broblemau allai godi.
Ac er mwyn neilltuo digon o amser glanhau rhwng cwsmeriaid, bydd yr oriau agor yn ymestyn.
'Gwneud popeth posib'
Gydol y cyfnod clo, mae criw Salon Chiron wedi cadw mewn cysylltiad â'u cwsmeriaid ar gyfryngau cymdeithasol.
"Roedden ni am adael iddyn nhw wybod ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau eu diogelwch pan fydd hi'n bosib iddyn nhw ddod i'r salon eto.
"Ac ry'n ni wedi cadw'r negeseuon yn ysgafn a phostio lluniau doniol, er mwyn ceisio codi ysbryd ein cwsmeriaid "
Wendie Williams yw perchennog Gwallt Wendigedig yng Nghaerfyrddin. Mae hi'n gweithio o'i chartref.
"Dyw'r rheolau ddim yn wahanol iawn i salon o ran glendid, a fi 'di bod yn gwneud cyrsie ar-lein ar gyfer glendid a diogelwch," meddai Wendie.
"Felly yn y gegin, fel sy'n arferol, bydd tywelion glân a gowns glân bob tro.
"A wedyn bydd y PPE, menig a mygydau. Ac wrth gwrs, bydda i'n gwisgo visor, a bydd mygyde 'da fi ar gyfer y cwsmeriaid, os yden nhw eisiau eu gwisgo nhw.
"Bydd angen cadw'r lle'n agored, yn ventilated, felly ma' hynny yr un fath â salon.
"Ond wrth gwrs gatre, mae gen i deulu, felly byddai'n cloi off y gegin. Fi'n ffodus bo' lle i ddod mewn i'r gegin o'r ffrynt a'r cefn."
Mae Wendie Williams hefyd wedi gorfod gostwng nifer y cwsmeriaid mewn diwrnod, er mwyn neilltuo digon o amser i lanhau'n drylwyr rhwng pob cwsmer. Ac mae gwariant ychwanegol hefyd.
"Fi 'di prynu sterilisers newydd, a fi 'di gorfod cael contactless machine, fel bo' fi ddim yn gorfod delio â cash gymaint rhagor.
"Mae hyn i gyd yn mynd i fod yn newydd, ond dwi'n edrych ymlaen i gael bach o normalrwydd.
"Fi 'di dewis uwchraddio teclynnau, cael UV lamp ar gyfer y sisyrne.
"O'n i arfer eu golchi nhw lawr fy hun. Wi'n trio peidio codi prisiau oherwydd y gwariant hynny, ond mae'n rhaid cymryd mwy o fesurau i gadw pawb yn saff."
Yn ôl Wendie Williams, mae pris lliw gwallt wedi codi'n ddiweddar hefyd.
"Mae prisiau'r warws 'di mynd lan. O'n i arfer gallu cael 4 lliw am bris 3, ond s'dim bargeinion felly ar gael nawr.
"Mae lliw oedd arfer bod yn £25 bellach yn £30."
Mae Anwen Lewis o Lanon, Ceredigion yn rhedeg cwmni trin gwallt symudol.
Ac fel Jackie Turner a Wendie Williams, mae hithau hefyd yn ysu i ailddechrau.
"Mae'r PPE wedi cyrraedd a 'wi methu aros! Fi 'di gorfod prynu mygydau a menig a disposable gowns.
"Chi'n gorfod meddwl nawr am bethau mae modd eu taflu cyn yr apwyntiad nesaf."
Bydd Anwen hefyd yn gorfod ail amserlennu.
"Achos bo' angen glanhau popeth wedi i fi fod mewn tŷ, 'wi 'di penderfynu cymryd llai o gwsmeriaid mewn diwrnod, sy'n bach o ben tost, ond wedyn ma'n rhaid neud e."
Gan ei bod hi'n ymweld â thai cwsmeriaid, mae ffactorau ychwanegol i'w hystyried.
"Mae rhai cwsmeriaid 'di dweud eu bod nhw am i fi fynd i'w gardd i dorri gwallt.
"Ond wedyn ma' hynny'n dibynnu ar y tywydd, ac os yw hi'n bwrw glaw, mi fydde'n rhaid canslo'r apwyntiad."
Byddai Anwen wedi dymuno cael gwybodaeth fanylach gan Lywodraeth Cymru, yn benodol ar gyfer busnesau symudol.
"'Sdim byd yn set in stone, so nhw 'di gweud wrthon ni be sy' rili angen arno ni.
"Fi'n gobeithio y cewn ni fwy o wybodaeth ar 9 Gorffennaf. Ma' rhai gwledydd yn gorfod gwisgo mwy o PPE na gwledydd eraill.
"Bydde hi'n well cael gwybod cwpwl o wythnosau cyn y nawfed achos mi fydd hi bach yn hwyr, os oes angen pethe ychwanegol ar gyfer y 13eg.
"Mae'r diwydiant trin gwallt wedi bod yn eitha da a bod yn onest.
"Ond pan wnaeth Llywodraeth Cymru y cyhoeddiad, doedd hi ddim yn glir a'i cyfeirio at salons neu trinwyr gwallt symudol oedd y Prif Weinidog.
"Gorfes i 'neud mwy o ymchwil. Ond dyle hynny fod wedi bod yn gliriach yn y lle cyntaf."
Ond beth am y lliw?
Mae Anwen Lewis hefyd yn ofni y bydd yn rhaid codi prisiau fymryn oherwydd cost y PPE.
Un o'r prif bynciau trafod ym maes trin gwallt yn ystod y cyfnod clo ydy doethineb lliwio gwallt eich hun gyda chynnyrch o siop.
Ar y cyfan, dyw steilyddion gwallt ddim yn cynghori hynny.
"Wi'n gwbod nawr taw lliw potel fydd hi," meddai Anwen, gan chwerthin.
"A wi'n gwbod bydd lot o waith cywiro lliw i'w wneud!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019