Galw am ymchwiliad i barc busnes gwag ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
bryn cegin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd parc busnes Bryn Cegin ei sefydlu yn y flwyddyn 2000

Mae 'na alw am ymchwiliad annibynnol i wariant Llywodraeth Cymru ar stad ddiwydiannol ar gyrion Bangor.

Yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru mae'r llywodraeth wedi gwario £11.37m ers y flwyddyn 2000 ar barc Bryn Cegin, er nad oes yr un busnes erioed wedi sefydlu yno.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian fod y gwariant yn "sgandal" a bod angen ymchwiliad i ddatrys yr hyn sydd wedi digwydd.

Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i "ddod â swyddi i'r ardal".

Sefydlwyd y parc busnes yn y flwyddyn 2000 yn dilyn "ymgynghori" oedd yn dangos yr angen am safle o'r fath.

Y bwriad oedd creu safle 70,000 metr sgwâr gyda'r gallu i ddenu 1,600 o swyddi, ond 20 mlynedd yn ddiweddarach does yr un swydd wedi ei chreu yno, nac unrhyw adeilad ar y safle.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £11.37m ar y safle, gyda rhan o'r arian yn deillio o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd AS Arfon, Siân Gwenllian fod y gwariant ar y safle yn "sgandal"

Yn ôl Ms Gwenllian mae'r gwariant yn "sgandal" ac mae angen creu swyddi o ansawdd yno.

"Be' oedd y pwrpas gwario er mwyn rhoi yr isadeiledd mewn ac wedyn peidio gwneud llawer o ymdrech i gael buddsoddiad pellach?" meddai.

"Mae 'na gwestiwn am ddefnydd arian cyhoeddus... dwi'n credu bod angen defnyddio arian cyhoeddus er mwyn buddsoddi, er mwyn creu swyddi ond yn yr achos yma - y ffasiwn bres wedi ei wario ac 20 mlynedd o ddim byd.

"Mae angen gofyn cwestiynau mawr, a dwi'n tybio bod angen ymchwilio i'r hyn sydd wedi mynd o'i le."

Ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000 mae rhai cwmnïau a busnesau wedi gwneud ceisiadau cynllunio ar gyfer y safle ond er gwaetha'r addewidion does dim busnesau yno a'r caeau felly dal yn wag.

Disgrifiad o’r llun,

Does yr un busnes erioed wedi sefydlu ym Mryn Cegin

Erbyn hyn mae'r stad yn rhan o Fargen Twf y Gogledd ac mae'r safle yn gynwysedig yn y cynlluniau buddsoddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r potensial ar gyfer twf cyflogaeth" a'u bod yn gweithio gyda "phartneriaid lleol".

Er gwaetha'r diffyg buddsoddiad, yn ôl Cyngor Gwynedd mae cyfleusterau "parcio a rhannu" bellach wedi'i sefydlu ar un rhan o'r stad gyda'r bwriad o wasanaethau ardal Bangor.

Daw hyn yn dilyn cefnogaeth ariannol gwerth £840,000 gan Lywodraeth Cymru.

Wrth ymateb i hyn fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i weithio gyda Chyngor Gwynedd i ddenu busnesau i'r ardal".