Teimladau cymysg wrth baratoi i groesawu ymwelwyr eto

  • Cyhoeddwyd
Kit Ellis o fferm Llwydyrus ger Pwllheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kit Ellis wedi gwneud newidiadau i'r drefn arferol yn ei bythynnod gwyliau

Ddydd Sadwrn nesaf mi fydd yna lacio ar y cyfyngiadau mae'r diwydiant ymwelwyr wedi eu hwynebu ers dechrau argyfwng Covid-19.

Bydd unedau hunan-ddarpar yn cael ailagor, ond yn gorfod sicrhau fod yna fesurau manwl mewn grym er mwyn cadw ymwelwyr, perchnogion y busnesau a phobl leol yn ddiogel.

Er y rheolau caeth, mae'r diwydiant yn gyffredinol yn croesawu'r hawl i ailagor. Am y tro cyntaf mewn 100 niwrnod mi fydd modd i'r busnesau gael incwm.

Mae gan Kit Ellis o Fferm Llwyndyrys ger Pwllheli bump o unedau hunan-ddarpar, sef hen feudai a chytiau ar fuarth y fferm wedi cael eu haddasu yn fythynnod gwyliau.

Croesawu ymwelwyr yn ôl

Pan darodd y pandemig bu rhaid iddi ganslo ei holl archebion a rhoi arian yn ôl i'r rhai oedd wedi archebu gwyliau.

Mae hi'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'r fferm, llawer ohonyn nhw yn ymwelwyr rheolaidd sydd wedi dod yn ffrindiau iddi hi a'r teulu dros y blynyddoedd.

Ar wahân i ambell ddiwrnod yma ac acw, mae'r pump uned yn llawn tan yr hydref.

"Mae'r ffôn wedi bod yn brysur, mae'r we wedi bod yn brysur, mae pobl yn desbret isio dod yn ôl achos maen nhw wedi bod yn gyfyngedig yn eu tai am fisoedd."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gymunedau Llŷn, megis Aberdaron, yn dibynnu'n helaeth ar ymwelwyr

Mae'n dweud eu bod wedi gorfod gwneud llawer iawn o waith i baratoi ar gyfer ailagor, ac mae wedi bod yn gostus gan eu bod wedi gorfod prynu offer diogelwch i lanhau'r bythynnod ar ôl i bob set o ymwelwyr adael.

Mae hi hefyd wedi gorfod addasu'r cyfarpar yn y bythynnod.

"Fel arfer mae yna glustogau ar y soffa, fydd rheini ddim yma; mae yna throws ar y gwlâu yn y llofft, fydd rheiny ddim yna; fydd yr ymwelwyr yn dod a bath towels a kitchen towels hefo nhw.

"Fydd yna ddim blodau yn y tŷ, fydd yna ddim 'welcome pack'. 'Dan ni wedi creu llyfryn, a mi fyddan nhw'n cael hwnnw ar ebost cyn cychwyn, yn dweud beth ydy canllawiau'r wlad, beth ydy ein canllawiau ni, a maen nhw'n gwybod y byddan nhw'n mynd a dod heb gyfathrebu hefo ni.

"Mae o reit basic, ond mae nhw'n dal isio dod, a rydan ni yn edrych ymlaen i'w croesawu nhw."

Dibynnu ar ymwelwyr

Ond mae yna bryder ymhlith rhai o bobl Llŷn am effaith ailagor y diwydiant ymwelwyr a'r ofn y bydd y feirws yn ymledu mewn ardal, sydd ar y cyfan, ddim wedi gweld niferoedd mawr yn dal yr haint.

"Dwi'n deall ac yn cydymdeimlo'n llwyr 'efo pawb sydd yn gysylltiedig â'r busnes ymwelwyr," meddai Kit Ellis.

"Ond ar ddiwedd y dydd mae pawb yn Llŷn yn gysylltiedig â'r diwydiant ymwelwyr - rydan ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

"Dwi yn bryderus bod ni yn agor, ond ar ddiwedd y dydd fy musnes i ydy o a does gynna i ddim incwm yn dod i mewn.

"Dwi wedi pwyso a mesur yn galed a dwi wedi rhoi canllawiau trylwyr iawn i mewn i gadw fi, yr ymwelwyr a phawb allan yn fana yn saff."