Brexit, masnach a chlorineiddio cig - y farn o'r UDA

  • Cyhoeddwyd
VirginiaFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Rhyw awr i ffwrdd o Washington dywed un ffermwr bod 'amaeth yn America yn dioddef'

Mae'n noson gynnes yn Virginia, ac mae'r haul yn disgleirio ar y bryniau. Rhyw awr i ffwrdd mae Washington DC ond mae gyrru drwy Sir Loudon bron yn ymddangos fel taith trwy ddyffryn Napa - mae 'na winllannoedd di-ri ar naill ochr y ffordd.

Mae'n rhan hardd o'r byd lle mae pobl yn dweud eu bod nhw'n byw bywyd syml, ac mae'r mwyafrif yn ffermwyr.

Rydw i wedi dod i ymweld â Don Ulmer ar Fferm Mill Creek. Mae wedi bod yn gweithio ar y tir am dros 40 mlynedd ac yn arbenigo mewn cynhyrchu cig o ansawdd uchel gan gynnwys cyw iâr, cig oen ac eidion.

Wrth i mi ei gyfarfod y tu allan i'w ysgubor fawr werdd mae Don yn dweud yn syth fod ffermio yn America yn dioddef.

"Fydd y plant ddim yn cymryd y fferm drosodd ac mae'n amhosib dod o hyd i weithwyr digon da i helpu - mae plant ar gyfrifiaduron drwy'r amser," meddai.

Mae Don yn ffermwr traddodiadol ac yn ymfalchïo yn ei waith. Rwy'n awyddus i ddarganfod sut mae e'n wahanol i ffermwyr yng Nghymru.

Mae e, fel ffermwyr adref, yn credu'n gryf mewn cefnogi busnesau lleol.

Clorineiddio ieir

Wrth i glorineiddio ieir fod yn fater dadleuol, rwy'n gofyn iddo fe siarad am y broses.

"Pan mae cyw iâr yn cael ei baratoi ry'n ni'n rhoi'r cyw mewn twb sydd â rhywfaint o glorin ynddo. Yna ar ôl hynny mae'n cael ei rinsio," meddai.

Wrth i fi esbonio iddo fod cyw iâr sydd wedi'i glorineiddio wedi cael ei wahardd gan yr Undeb Ewropeaidd dros 20 mlynedd yn ôl ac nad yw cyw iâr o'r Unol Daleithiau yn cael ei fewnforio i Brydain, dywed Don fod clorineiddio cyw iâr yn angenrheidiol i ladd bacteria.

"Fyddwn i ddim yn awyddus i fwyta cyw iâr sydd ddim wedi cael ei olchi fel hyn," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim am fwyta cyw iâr sydd heb gael ei glorineiddio," meddai Don Ulmer

Ar ôl Brexit, mae llawer yn y DU yn teimlo'n gryf mewn agor masnach newydd gyda'r Unol Daleithiau, ac mae hynny'n cynnwys mewnforio cyw iâr o'r UDA.

Wrth i drafodaethau Llywodraeth Prydain fynd yn eu blaen, mae ffermwyr yng Nghymru yn poeni y bydd mewnforio o'r UDA yn golygu cig rhatach o safon is.

Methodd gwelliant i'r mesur amaeth yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf - ei nod oedd amddiffyn ffermwyr yn erbyn mewnforion rhad.

Ffynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i lywodraeth yr Unol Daleithiau gefnogi ffermwyr America, medd Don Ulmer

Ond yma ar y fferm yn Virginia, mae Don Ulmer yn poeni. Fel y ffermwyr yng Nghymru, dyw ffermwyr America ddim eisiau i gig rhatach ddod mewn.

Mae'n dweud ei fod eisoes yn cystadlu â chig rhad sy'n cael ei fewnforio o Awstralia a Seland Newydd.

"Rwy'n ceisio gwerthu fy nghig mewn marchnadoedd lleol, ac mae pobl yn dweud wrtha i ei fod yn rhy ddrud," meddai.

"Wedyn maen nhw'n mynd i'r archfarchnad a phrynu cig rhad o Awstralia."

Mae'n pwysleisio bod angen i lywodraeth yr Unol Daleithiau gefnogi ffermwyr America.

"'Dan ni'n cael trafferth ac mae angen i'r llywodraeth flaenoriaethu ffermwyr America, a gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ni gario 'mlaen," ychwanegodd.

Trump yn amddiffyn ffermwyr

Mae Don yn amharod i drafod gwleidyddiaeth. Ond fel popeth yn yr UDA, mae gwleidyddiaeth wrth wraidd y penderfyniadau yn enwedig a hithau'n flwyddyn etholiad.

Mae Don yn dweud ei fod yn cefnogi tariffau Donald Trump ar China gan eu bod yn amddiffyn ffermwyr lleol.

Dywed hefyd bod busnes wedi bod yn dda am y pedair blynedd diwethaf o dan yr Arlywydd Trump ond y bydd yn rhaid iddo weithio'n galed i ennill y bleidlais wledig ym mis Tachwedd wedi iddo golli rhywfaint o'i barch yn sgil y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyn yn cael crwydro'n rhydd ac yn hapus, medd Don Ulmer

Mae Don yn dangos ei ŵyn i mi ac yn dweud fod ei anifeiliaid yn hapus, ac rydw i'n cytuno.

Mae ganddyn nhw ddigon o le i grwydro'n rhydd, ac mae'n anodd peidio bod yn hapus mewn amgylchedd mor brydferth - mae'n edrych fel llun cerdyn post o America.

Gyda rhywfaint o dristwch, dywed Don wrthyf ei fod yn debygol o werthu ei fferm oherwydd nad oes unrhyw ffordd o gadw pethau i fynd wrth iddo heneiddio.

Ond dywedodd wrth i ni ffarwelio: "Yna af i deithio, byddwn i wrth fy modd yn ymweld â ffermydd yng Nghymru a chwrdd â rhai ffermwyr yno."

Os daw Don i Gymru bydd digon o bethau, heb os, i'w trafod!

Y farn yng Nghymru

Mae Alun Elidyr sy'n ffermwr ac yn gyflwynydd y rhaglen Ffermio yn dweud nad oes modd cystadlu yn erbyn cig rhad o America.

"Mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi dweud nad ydyn ni yn mynd i ostwng y safonau yma fel cynhyrchwyr bwyd," meddai, "(ac) mae hwnna'n mynd i fod yn ofyniad arnom ni o hyd."

"Felly os mae bwyd o safon is yn dod i mewn, ac yn cael caniatâd i ddod mewn, sut 'dan ni'n gallu cystadlu?

"Byddai'r bwyd yn mynd i archfarchnadoedd lle mae pobl yn siopa ar frys ac os yw'n cynnyrch ddwywaith drutach, ac yn edrych yr un fath, sut 'dan ni'n gallu cystadlu?"

Ar hyn o bryd mae mwy na 90% o gig oen Cymru yn cael ei werthu i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ond nid Brexit yn unig yw'r pryder. Mae ffigyrau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan yr Adran Gyllid a Thollau yn dangos bod cyfanswm y cig oen a allforiwyd o Brydain yn chwarter cyntaf eleni 15% yn is na'r llynedd.

'Masnachu ag America yn gyfle da'

Ond mae rhai pobl yn credu y byddai gwerthu cig i America yn newid pethau er gwell i Gymru.

Mae cyn-ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn cefnogi mwy o fasnach gyda'r Unol Daleithiau ac yn dweud y dylai Cymru allforio cig eidion i America.

"Mae bargen masnach rydd yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru, sydd eisoes yn allforio £100m o gig," meddai.

"Gyda chig eidion yr Unol Daleithiau eisoes 6% yn ddrutach na chig eidion yr UE mae marchnad ar gyfer ein cynnyrch o ansawdd uchel."