Cartwnau i ddenu mwy o Gymry Cymraeg i faes cymdeithaseg
- Cyhoeddwyd
Gall prinder o bobl sy'n dewis dilyn cyrsiau cymdeithaseg trwy gyfrwng y Gymraeg achosi problemau yn y dyfodol pan fydd angen cynnal astudiaethau o gymunedau Cymraeg.
Mae diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer disgyblion ysgol a phrifysgol yn un o'r rhesymau dros hynny, yn ôl darlithydd yn y pwnc ym Mhrifysgol Bangor.
I geisio mynd i'r afael â'r broblem mae Dr Cynog Prys a'i gydweithiwr yn adran gymdeithaseg y coleg, Dr Rhian Hodges, wedi ysgrifennu e-lyfr - 'Cyflwyniad i Gymdeithaseg' - sy'n cynnwys fideos, sleidiau a thestun Cymraeg.
Hwn yw'r trydydd mewn cyfres gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r ddau awdur bellach yn gweithio ar y pedwerydd.
Mae 'Cyflwyniad i Gymdeithaseg' yn cynnwys cartwnau gan Huw Aaron, sydd â phrofiad helaeth o ddarlunio llyfrau, comics a chylchgronau.
"Byddwn i'n dweud bod yna brinder pobl sydd yn astudio cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod hyn yn gallu bod yn broblem wrth i ni astudio y gymdeithas Gymraeg a Chymreig," meddai Dr Prys.
"Un enghraifft dda fyddai'r ffordd y mae unigolion yn cael eu hyfforddi i gynnal ymchwil ac astudio cymdeithas o fewn cymunedau Cymraeg a dwyieithog."
Mewn sefyllfa o'r fath byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r ymchwilydd o'r cymunedau sy'n cael eu hastudio, meddai.
'Prinder adnoddau Cymraeg'
Ychwanegodd: "Mae'r llyfrau yn y gyfres yn cynnig cyfle i ni ddadansoddi ystadegau'r Cyfrifiad yng Nghymru ar faterion fel disgwyliad oes a chyfansoddiad teuluoedd, er enghraifft.
"Mae hefyd yn cyfeirio at ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n adrodd bod merched yng Nghymru yn tueddu i wneud dwywaith gymaint o waith tŷ a gofal plant na dynion.
"Mae astudio canlyniadau o'r fath yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a disgyblion gymharu data o Gymru gydag astudiaethau mewn rhannau eraill o'r byd.
"Mae o'n fwy diddorol byth o ystyried fod teuluoedd, y plant a'r rhieni, wedi bod yn sownd yn y tŷ am amser mor hir yn ystod y pandemig presennol."
Dywedodd Dr Prys fod prinder o adnoddau cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg a bod hynny'n rheswm arall dros gyhoeddi'r e-lyfrau.
"Roedd Rhian a minnau wedi astudio Cymdeithaseg Lefel A ac wedi gwneud gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor, ond roedd bron yr holl adnoddau a oedd ar gael yn Saesneg.
"Un o'r problemau efo'r rhain yw nad ydynt yn sôn o gwbl am Gymru a'r cyd-destun Cymreig.
"Wedi i'r ddau ohonom gychwyn gyrfa fel darlithwyr, roeddem yn benderfynol o greu adnoddau penodol iaith Gymraeg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr Cymru.
"Roedden ni hefyd yn gweld yr angen i greu adnoddau oedd yn sôn am Gymru ac nid yn gyfieithiad yn unig.
"Mae'r gyfres hon wedi rhoi'r cyfle i ni wneud y ddau beth, wrth i ni gyfeirio at astudiaethau Cymreig a chael y cyfle i gyfeirio atynt yn yr iaith Gymraeg."
'Angen cymdeithasegwyr fwy nag erioed'
Yn ôl Dr Rhian Hodges mae pandemig Covid-19 yn adlewyrchu'r anghydraddoldeb hil a dosbarth cymdeithasol sy'n bodoli o fewn y gymdeithas gyfoes.
"Er enghraifft, mae llofruddiaeth George Floyd yn nwylo'r heddlu yn Minneapolis wedi rhoi sylw byd eang i sicrhau cyfartaledd unigolion du o fewn y gymdeithas drwy ymgyrch Black Lives Matter," meddai.
"Yn ogystal, mae Covid 19 wedi cyfrannu at ddiweithdra torfol sydd wedi gwthio nifer o deuluoedd i fyd o dlodi ac allgau cymdeithasol lle maent yn ddibynnol ar fanciau bwyd a rhoddion argyfwng .
"Yn fwy nag erioed, mae angen cymdeithasegwyr ar Gymru er mwyn ceisio gwneud synnwyr o'r anghyfiawnder sydd o'n cwmpas, ac er mwyn ymchwilio ymhellach i sut mae strwythurau cymdeithasol yn gwahaniaethu yn erbyn grwpiau cymdeithasol bob dydd."
Mae modd i fyfyrwyr sy'n astudio Cymdeithaseg Lefel A yn Gymraeg lawrlwytho'r e-lyfrau am ddim.
Dros yr haf bydd Dr Prys a Dr Hodges yn troi eu sylw at y pedwerydd llyfr - Anghydraddoldebau Cymdeithasol - fydd yn rhoi anghydraddoldebau yng Nghymru o dan y chwyddwydr ac yn cyfeirio at ymchwil ac ystadegau sy'n benodol yn ymdrin â Chymru.