Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-3 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Caerdydd yn dathluFfynhonnell y llun, Asiantaeth Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu gôl Robert Glatzel yn hanner cyntaf y gem

Roedd yna siom i obeithion Caerdydd o sicrhau gem gyfartal gatre yn erbyn Blackburn Rovers nos Fercher wrth i'r ymwelwyr ddod yn eu holau ddwywaith i gipio'r fuddugoliaeth.

Rhoddodd Will Vaulks yr adar gleision ar y blaen diolch i gic gelfydd o ymyl y cwrt cosbi, cyn i Blackburn ddod yn gyfartal wrth i gyn ymosodwr Dinas Abertawe, Danny Graham, daro i gefn y rhwyd

Fe wnaeth Caerdydd adennilly blaen ychydig cyn yr egwyl wrth i Robert Glatzel orffen symudiad yn syth oddi ar y cae ymarfer ond, o fewn munud i'r ail hanner, roedd Blackburn yn gyfartal eto wrth i Dominic Samuel benio heibio'r gol-geidwad Alex Smithies.

Yna sicrhaodd Rovers fuddugoliaeth wrth i Armstrong fanteisio ar fethiant Leandro Bacuna i amddiffyn.

Mae Caerdydd yn parhau yn safleoedd gemau ail-gyfle, dri phwynt yn glir o Derby yn y seithfed safle, tra bod Blackburn yn dringo i'r nawfed safle, gyda phwynt o wahaniaeth rhyngddyn nhw ac Abertawe.