Cau strydoedd trefi Ceredigion oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Canol tref Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif ffordd arfordirol yr A487 yn rhedeg drwy ganol tref Aberystwyth

Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cau rhai o'r strydoedd yn nhrefi'r sir i gerbydau yn ystod y dydd er mwyn creu 'parthau diogel' ar gyfer cerddwyr.

Y bwriad yw ei gwneud hi'n haws i bobl gadw pellter diogel o'i gilydd yng nghanol y trefi wrth i fwy o dwristiaid ddechrau ymweld â'r sir.

Yn ôl datganiad y cyngor mae gan "y rhan fwyaf o drefi'r sir gynllun stryd hanesyddol gyda throedffyrdd cul a thraffig yn rhedeg trwyddynt" ac er mwyn i fusnesau fynd at i ailagor ac wrth i ymwelwyr ddychwelyd "nid oes digon o le i bobl gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd".

"Bydd ein trefi'n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn ôl", meddai'r datganiad, "ond bydd newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr."

Yn ogystal â chau strydoedd i gerbydau yn ystod y dydd bydd y Cyngor yn:

  • creu mwy o le tu allan i fân-werthwyr a'r sector lletygarwch fasnachu

  • clirio palmentydd trwy gael gwared â chelfi stryd ac eitemau eraill

  • cyflwyno arwyddion i helpu ymwelwyr i gynnal pellteroedd diogel.

Dyw Cyngor Ceredigion ddim wedi datgelu manylion yr union strydoedd fydd yn cael eu cau i gerbydau, ond deellir y bydd newidiadau ym mhob tref yn y sir.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ol i cigydd Rob Rattray mae palmant gul y tu allan i'r siop yn rhwystro pobl rhag gallu cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel

Yn Aberystwyth mae rhai busnesau yn deall yr angen i newid.

Mae siop y cigydd Rob Rattray wedi bod ar agor trwy gydol y cyfnod clo ond gyda newidiadau.

Does neb yn cael mynd mewn i'r siop fach nawr - rhaid aros wrth y drws, talu a chymryd y cig o'r fan yno.

"Dim ond pump o siopau sydd wedi bod ar agor yn ganol y dref trwy'r adeg," meddai.

"Mae pobl wedi bod yn ffonio mewn gydag archeb ac wedyn maen nhw wedi bod yn dod lawr casglu'r bwyd a mynd."

Mae hyn yn golygu y gallai fod yna giw ar y palmant tu fas y siop.

Mae'r pafin yn eithaf cul ac wrth i draffig basio ar y ffordd does dim llawer o le i bobl basio a chadw eu pellter.

Yn ôl Rob Rattray mae'n deall yr angen i wneud newidiadau.

"Fi yn gweld yr angen achos amser mae'n fwy prysur tua diwedd yr wythnos pan mae ciws f'yna mae pobl jyst yn gwthio heibio iddyn nhw ar hyd y pafin.

"Fi yn deall, mae eisiau trio gwneud rhywbeth."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Angharad Morgan wedi hoffi petai'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad gyda pherchnogion siopau

Ond mae nifer o fusnesau yng nghanol Aberystwyth yn poeni y bydd cau'r strydoedd i draffig yn golygu llai o gwsmeriaid.

Ac maen nhw'n dweud nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal ynglŷn â'r mater hwn.

"Ers i ni ailagor fi'n gweld bod natur siopa wedi newid", meddai Angharad Morgan, perchennog Siop Inc.

"Mae pobl jyst yn picio i'r dref i nôl beth mae nhw angen.

"Felly mae pobl yn parcio lawr y stryd, picio i fan hyn a mynd nôl i'r car a mynd i ran arall o'r dre i gasglu beth maen nhw moyn.

"Dwi ddim yn siŵr sut mae'r cyngor yn gallu dod i benderfyniad ynglŷn â hyn heb gysylltu gyda pherchnogion busnes y dref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae caffi teulu Nathan Egerton ar stryd brysur rhwng canol Aberystwyth a'r prom

Mae bwytai a chaffis yn gobeithio y bydd y newidiadau yn golygu y gallan nhw weini mwy o bobl tu fas i'w sefydliad

Mae Nathan Egerton yn gweithio yng nghaffi'r Caban: "Mae'n syniad da cael pedestrianisation fan hyn - da ni angen mwy o gwsmeriaid i dreulio mwy o amser yn y stryd.

"Baswn ni'n gallu cael lot mwy o fyrddau allan fan hyn ar y ffordd, lot mwy o trade yn dod trwodd."

Ailddiffinio llefydd i fasnachwyr yw un o amcanion y newidiadau, yn ogystal â diogelu'r gymuned ac iechyd pobl meddai Cyngor Ceredigion.

Mae busnesau yn Aberystwyth - a threfi eraill Ceredigion - yn aros i glywed mwy o fanylion. Dywed Cyngor Ceredigion "bydd rhagor o wybodaeth am y parthau diogel yn dilyn."au.