Ceredigion: 'Ffôl iawn i feddwl ein bod ni wedi cael datrysiad'

  • Cyhoeddwyd
Map o Gymru gyda ffigurau coronafeirwsFfynhonnell y llun, Lloyd Warburton/@LloydCymru

Heblaw am Ynysoedd Sili, Ceredigion ydi'r ardal gyda'r lleiaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru a Lloegr. Yn hytrach na dathlu, mae prif weithredwr y cyngor yn bryderus.

Ar fap o achosion Covid-19, mae Ceredigion yn ymddangos fel ynys - a phawb yn edrych o'r tu allan yn eiddigeddus. Gyda dim ond 61 achos i bob 100,000, mae'n sefyll allan yn glir o'i gymharu â'r siroedd sy'n ei amgylchynu: 222 achos i bob 100,000 ym Mhenfro, 392 yn Sir Gaerfyrddin, 223 ym Mhowys, a 373 yng Ngwynedd.

Gyda saith gwaith yn llai o achosion na'r cyfartaledd yng Nghymru a dim ond saith o bobl wedi marw yno, mae wedi denu sylw gwleidyddion, y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf.

Ond er bod rhai wedi canmol y cyngor am ddechrau system olrhain a hunan-ynysu yn gynnar iawn yn y pandemig, tydi'r prif weithredwr ddim yn barod i ddathlu.

"Fy ngofid mawr yw fydd rhai pobl yn meddwl ein bod ni wedi datrys y sefyllfa a'n bod ni gyda'r atebion oherwydd y system olrhain, ond mae'n llawer mwy cymhleth na hynny," meddai Eifion Evans, sydd yn y swydd ers 2017.

"Ar y funud ni ddim yn meddwl bod y clwy' wedi cyrraedd Ceredigion ond fe fyddai'n ffôl iawn i feddwl ein bod ni wedi cael datrysiad. Fe all y sefyllfa newid dros nos."

Ffynhonnell y llun, David Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal gwledig Ceredigion wedi bod o fantais i arafu lledaeniad coronafeirws

Mae'n rhy gynnar i wybod pam bod yr ardal wedi llwyddo i osgoi'r gwaethaf hyd yma, ond yn ôl y prif weithredwr mae'n siŵr o fod yn gyfuniad o sawl rheswm.

Dechrau'r cyfan oedd cael gwybod gan dîm Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddechrau'r pandemig faint o boblogaeth y sir fyddai'n debygol o farw heb unrhyw ymyrraeth gan yr awdurdodau - 600 o bobl.

Sefydlwyd tîm o uwch swyddogion i geisio osgoi cymaint o farwolaethau â phosib, a daeth un o'r atebion o'r Eidal.

Gwersi o dramor

Ar y pryd roedd pryder mawr am y niferoedd uchel o farwolaethau mewn cartrefi gofal yno. Ateb y tîm yng Ngheredigion oedd lleihau'n sylweddol faint oedd yn mynd a dod o'u cartrefi gofal - yn staff ac ymwelwyr.

"Fe wnaethon ni eu gosod nhw mewn cocŵn ymhell cyn y lockdown," meddai Eifion Evans. "Doedd timoedd gofal ddim yn cael teithio rhwng cartrefi er enghraifft.

"Ar y cychwyn cawsom ni drafodaeth gyda staff y sir i weld faint fyddai'n fodlon gweithio gartref, ac yn y blaen, a hefyd fe ofynnon ni faint fyddai'n gwirfoddoli i wneud gwaith arall o fewn y sir a faint fyddai'n fodlon cael eu hail-hyfforddi. Fe gawsom ni 500 o wirfoddolwyr."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion

Roedd hyn yn golygu bod posib i'r holl ofal gael ei gyflenwi o fewn staff y cyngor heb orfod dibynnu ar staff o ardal neu gartrefi eraill, na gofyn i asiantaethau lenwi bylchau.

Fe gafodd y pwyslais ar y lleol ei efelychu mewn meysydd eraill hefyd, fel creu hybiau cymunedol i gludo nwyddau angenrheidiol a meddyginiaeth i aelodau o'r gymuned.

Pan ddechreuodd Llywodraeth Cymru gyflenwi pecynnau bwyd i bobl oedd yn cael eu gwarchod, fe ofynnodd Ceredigion am yr hawl i barhau â'r hyn oedden nhw'n ei wneud yn barod - sef timoedd lleol yn cyflenwi bwyd lleol er mwyn lleihau'r risg o ddod â'r haint i mewn o ardaloedd eraill.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Gari Corden a Paul Jackson, staff y cyngor, yn dosbarthu bwyd

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ail-edrych ar effaith tebygol yr haint yn sgil cyflwyno rhai o'r newidiadau. Roedd y ffigwr yn well, ond dal yn uchel.

"Roedd wedi gostwng lawr i 200 o bobl gyda'r potensial o farw," meddai'r prif weithredwr. "Felly wedon ni 'ok mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth arall, dy' ni heb wneud digon'."

Yr ateb oedd sefydlu tîm fyddai'n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda i geisio olrhain unrhyw un oedd wedi bod mewn cyswllt gyda pherson oedd yn dangos symptomau o coronafeirws a gofyn iddyn nhw hunan-ynysu.

Roedd yr arbenigedd o fewn y sir yn barod, gan fod system debyg mewn lle pan mae dyletswydd ar y sir i olrhain achosion o rai clefydau penodol, fel legionella, neu achosion o wenwyn bwyd mewn tŷ bwyta er enghraifft.

Angen cydweithrediad pawb

Yn ôl Eifion Evans roedd amseru yn bwysig:

"Petai'r haint wedi sefydlu yma byddai wedi bod yn amhosib. Fi'n edrych ar ffigurau Rhondda Cynon Taf neu Gaerdydd gyda 2,000 o achosion - byddai angen byddin. Mae contact tracing yn gweithio os mae'n cael ei wneud yn ddigon cynnar.

"Hefyd roedd timoedd mewn lle i helpu nôl bwyd a meddyginiaeth i bobl oedd yn hunan-ynysu - doedd dim rheswm i neb adael eu cartrefi. Heb yr isadeiledd byddai'n anorfod eu bod nhw'n gorfod mynd allan i nôl bwyd o'r archfarchnad leol.

"Tydi gwneud un peth fel track and trace ddim yn gweithio ar ben ei hun - mae angen cydweithrediad pawb, y busnesau sydd wedi cadw'n ynghau, y trigolion sydd wedi aros gartref. Ni'n ffodus iawn bod diwylliant yn yr ardal o bobl yn gwarchod ei gilydd. Byddai'n amhosib fel arall."

Disgrifiad o’r llun,

Mae twristiaid yn cynyddu poblogaeth pentrefi fel Ceinewydd yn sylweddol

Mae'n dweud bod busnesau wedi cydweithio ar draws y sir, yn cynnwys cyrsiau golff a meysydd carafanau yn cytuno i aros ynghau pan oedd hawl ganddyn nhw i fod ar agor.

"Mae 800 o lefydd carafanio a gwersylla yn y sir, ac mae'r boblogaeth yn gallu codi o 72,000 i fyny at 120,000 gyda thwristiaid," meddai.

"Fe gawsom ni gwpwl o sgyrsiau gydag ambell faes carafanio ar y cychwyn, fe gaeon nhw ac roedd e fel caseg eira. Unwaith roedd un neu ddau wedi cau a dangos esiampl roedd y lleill yn eu hefelychu yn syth. Roedd 35,000 yn llai o boblogaeth yma o fewn wythnos. Roedd hynny'n syfrdanol. Mae ewyllys da pobl mor allweddol."

Er gwaethaf gwaith y cyngor a'r trigolion, mae'n dweud ei bod yn hanfodol cydnabod un ffactor bwysig arall - lwc.

Mae'n ardal wledig, ac felly'n gymaint haws cadw pellter na mewn dinas; mae'r ardal yn bell oddi wrth yr A55 a'r M4 a'r holl draffig sy'n teithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin - a gyda'r dystiolaeth yn awgrymu bod heintiau yn lledu fel ton o'r ardaloedd poblog ar draws y wlad roedd amser o'u plaid. A dyna sy'n ei bryderu ar hyn o bryd.

"Be' ni'n poeni amdano yn fawr iawn yw ein bod ni heb osgoi hwn eto. Mae'r haint yma, dyw e heb fynd ac fe allai ton gyrraedd yma unrhyw bryd a byddai'n sefyllfa'n wahanol iawn dros nos.

"Ni'n realistig - ac yn gwybod bod lwc yn rhan o hyn i gyd. Ni wedi osgoi hyd yma ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod elfen o lwc wedi chwarae ei rhan."

Hefyd o ddiddordeb: