Codi arwyddion mewn cynllun i gadw beicwyr Eryri yn saff
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi codi arwyddion ffordd i atgoffa gyrwyr ceir o'r angen i gadw 1.5m oddi wrth feic wrth basio ar ffyrdd yn Eryri.
Os ydy'r cynllun peilot yn llwyddiannus mae'n bosib y bydd arwyddion yn cael eu rhoi mewn rhannau eraill o'r sir.
Dywedodd Ann Williams o Glwb Beicio Dwyfor wrth Cymru Fyw bod 'na gynnydd yn nifer y beicwyr yn sgil y cyfyngiadau diweddar.
"Mae'n hynod o boblogaidd ac ers y tri mis diwetha' mae mwy o bobl yn cymryd at eu beics… mae'r lonydd wedi bod yn ddistawach ac mae pobl yn teimlo'n fwy diogel," meddai.
"Mae'n gallu bod [yn beryglus] yn yr haf, yn enwedig yn yr ardal yma lle mae llawer o dwristiaid yn dod yma.
"Mae'n lle poblogaidd efo beicwyr hefyd felly mae'n bwysig bod 'na barch rhwng ceir a beicwyr."
Mae'r arwyddion wedi'u gosod ar hyd ffyrdd Pas Llanberis, Pen y Gwryd, Nant Gwynant, Drws y Coed, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Mymbyr.
Dywedodd Dylan Jones, rheolwr traffig Cyngor Gwynedd: "Os bydd y cynllun yn llwyddiannus byddan ni'n edrych ar leoliadau eraill o fewn y sir... lleoliadau lle mae 'na feicio hamddenol yn digwydd... rhieni a phlant a hefyd lle mae pobl yn defnyddio beic i fynd i'w gwaith o ddydd i ddydd."
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd: "[G]yda'r traffig yn araf gynyddu, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i sicrhau bod beicwyr yn parhau i gael y parch a'r gofod maent yn eu haeddu ar ein ffyrdd.
"Mae'r prosiect yma wedi'i gynllunio ers peth amser ac wedi edrych ar arwyddion tebyg sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn sawl gwlad ar y cyfandir.
"Mae pasys agos gan geir nid yn unig yn frawychus i feicwyr, ond hefyd yn beryglus iawn."
Dilyn Sir Benfro
Cyngor Gwynedd yw'r cyngor cyntaf i gyflwyno arwyddion swyddogol o'r math yma yng Nghymru. Ond, cafodd arwyddion tebyg eu codi yn Sir Benfro y llynedd ar hyd llwybrau seiclo poblogaidd yn cynnwys trywydd yr Ironman, Taith Sir Benfro, a'r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol.
Cafodd yr ymgyrch honno ei lansio ar y cyd rhwng Cyngor Sir Benfro a Sarah Hitchen, wedi i'w gŵr, Jason Hitchen gael anafiadau difrifol tra'n beicio ar yr A4139 ger Manorbier ym mis Awst 2017.
Cafodd Jason ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty Treforys wedi'r ddamwain, a ddigwyddodd tra'i fod yn hyfforddi ar gyfer cyflawni her Ironman.
Ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w asennau, ysgyfaint, a'i ysgwydd cafodd wybod na fyddai fyth yn gallu gwneud triathlon eto.
Ar y pryd dywedodd ei wraig Sarah ei bod hi'n hollbwysig sicrhau amgylchedd well i bawb ar y ffyrdd, gyrwyr a beicwyr: "Mae angen i fodurwyr arafu a bod yn fwy ymwybodol o'r angen i adael mwy o fwlch rhyngddyn nhw a defnyddwyr eraill y ffyrdd."
Yn groes i'r disgwyl, llwyddodd Jason i gwblhau'r 'Cwrs Hir' yn Sir Benfro wedi wyth mis o adfer ei gorff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020