Gweld y teulu: 'Dim modd dal y dagrau nôl'

  • Cyhoeddwyd

Mae wedi bod yn wythnos o aduniadau teuluol ers codi'r cyfyngiadau teithio yng Nghymru ar 6 Gorffennaf a'r hawl i ddau aelwyd ddod at ei gilydd i greu swigen.

Sut deimlad oedd y goflaid gyntaf ar ôl misoedd ar wahân?

Dagrau ... ac ŵy Pasg!

Ffynhonnell y llun, Carwyn Wycherley

Mae'r emosiwn yn amlwg ar wyneb Ida Wycherley wrth iddi weld ei mab Carwyn am y tro cyntaf mewn pum mis.

"Hir yw pob aros medden nhw," meddai Carwyn sy'n byw yng Nghaerdydd. "Ond pan ffarweliais â Mam ar ei phen-blwydd yn Chwefror, doedd dim syniad gen i mai pum mis fyddai'r aros hwnnw.

"Gyda finnau'n byw yn y brifddinas a'r teulu cyfan yn byw tuag ochrau Wrecsam, roedden ni gryn dipyn yn bellach na phum milltir o'n gilydd a doedd dim gobaith caneri o gael cwrdd yn ystod y cyfnod clo.

"Fel pawb arall dros y misoedd diwethaf, rydym ni 'di bod yn cymryd un dydd ar y tro a ffonio'n ddyddiol. O'r eiliad y cawsom glywed y gallwn greu swigen gyda'n gilydd, roeddem ni'n cyfri'r dyddiau nes y gallwn gwrdd!

"Ar ôl y misoedd o ddisgwyl doedd dim modd i Mam ddal y dagrau nôl wrth weld ein gilydd yn y cnawd, cael hyg am y tro cyntaf ers cyhyd, a chael rhoi fy ŵy Pasg i fi!"

'Wedi gweld eisiau Mamgu a Taid yn ofnadwy'

Ffynhonnell y llun, Megan Williams

Daeth Pat a Roger Jones o ardal Chwilog ger Pwllheli, i weld eu merch Megan Williams a'u hwyrion Deio ac Elis yn Nhaliaris ger Llandeilo ddiwrnod wedi codi'r cyfyngiadau ar ôl pedwar mis heb weld ei gilydd.

"Gyda fy rhieni bron i 150 milltir i ffwrdd oddi wrthom dros gyfnod y locdown, mi fuodd hi'n amser rhyfedd ac anodd ar adegau," meddai Megan sy'n cyflwyno'r tywydd ar S4C.

Ffynhonnell y llun, Megan Williams

"Mae hynny wrth gwrs yn wir i nifer eang o deuluoedd sydd wedi bod ar wahân ers misoedd. Diolch byth am FaceTime a phob cyfrwng arall i gadw mewn cysylltiad!

"Fe gododd y rheol pum milltir ddydd Llun a daeth y ddau lawr atom ni fore trannoeth.

"Gafon nhw groeso cynnes yn enwedig gan Deio ac Elis, eu dau ŵyr sydd wedi gweld eisiau Mamgu a Taid yn ofnadwy. Hyfryd iawn i'w gweld eto!"

'Wedi mopio gyda'n wyres fach newydd'

Ffynhonnell y llun, Iwan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Margaret Roberts gydio yn ei hwyres newydd Greta am y tro cyntaf ar ddiwrnod ei phen-blwydd

Fis Mehefin fe glywon ni am brofiad Iwan Murley Roberts o Gaerdydd a'i wraig Elin a gafodd ferch fach o'r enw Greta yn ystod y locdown.

Dri mis yn ddiweddarach cafodd ei nain, Margaret Roberts sy'n byw yn Sir Fôn, weld ei hwyres am y tro cyntaf - a hynny ar ddiwrnod ei phen-blwydd.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod mor rhwystredig o beidio gweld Greta. Roeddan wedi bod yn edrych ymlaen gymaint at eni yr un fach," meddai Margaret.

Greta yw ei chweched wyres hi a'i gŵr Tegwyn, a'r gyntaf ers wyth mlynedd.

"Er ein bod wedi bod yn cael digon o luniau a bod ar FaceTime, does dim byd tebyg i gael gafael a bod yn agos i arogli babi newydd. Roedd hi wedi altro gymaint yn y ddau fis ers ei geni.

"Dwi'n siŵr fod mam a tad Elin yn teimlo yn debyg, roeddan ni yn methu mynd lawr i Gaerdydd i helpu cyn nac ar ôl ei geni. Mae'n amser anodd i rieni newydd a doedd neb yna i helpu.

"Ond wedi dweud hyn i gyd mae Tegwyn a fi wedi mopio gyda'n wyres bach newydd."

'Dim byd yn cymharu â sgwrs wyneb yn wyneb'

Ffynhonnell y llun, Bethan Wyn

Roedd yn ddiwrnod mawr i Bethan Wyn o Gaerdydd pan gafodd ei mam, Gill Wyn, sy'n byw yn Waunfawr ger Caernarfon, ymuno â'u swigen yn y brifddinas.

"Roedd y tŷ'n llawn cyffro - cwestiynau dibaid a rhedeg at y ffenest bob tro roedd sŵn car yn arafu tu allan, " meddai Bethan.

"Ar ôl amser hir ar wahân a bodloni ar sgyrsiau ffôn a FaceTime, dyma Nain o'r diwedd yn cael teimlo cynhesrwydd breichiau ei hwyrion, Math, 11 oed, a Macsen, 5 oed, am y tro cyntaf ers pedwar mis.

"Roedd 'na chwerthin, roedd 'na ddagrau ond yn fwy na dim roedd 'na deimlad bodlon, braf, cyfarwydd - roedd Nain yma. Doedd dim byd lletchwith na rhyfedd am y peth ac roedd pethau'n teimlo mor naturiol ag erioed.

"Er yr holl ffyrdd modern o gyfathrebu sydd wedi bod ar gael i ni drwy gydol y cyfnod clo, does 'na ddim byd yn cymharu â sgwrs wyneb yn wyneb a cwtshis a 'mwytha efo Nain, stori ar ei glin a sws nos da ganddi."

'Fedra i ddim stopio gwenu!'

Disgrifiad,

Y Parchedig Gerwyn Roberts o Lanrwst yn cwrdd â'i ŵyr am y tro cynta'

Doedd gan y Parchedig Gerwyn Roberts ddim geiriau i ddisgrifio sut roedd yn teimlo am gael gweld ei ŵyr am y tro cyntaf wrth i'r rheol pum milltir ddod i ben pan aeth camerâu Newyddion 9 i Lan Conwy i ffilmio eu haduniad.

Fe gafodd Harvey Wyn ei eni yn ystod y cyfnod clo, ac felly doedd ei deulu ddim wedi cael cwrdd ag o.

Teithiodd y Parch. Roberts 10 milltir o'i gartref yn Llanrwst i weld ei ferch a Harvey wedi i'r rheolau gael eu llacio.

Doedd o ddim ond wedi gallu gweld ei ŵyr mis oed drwy'r ffenestr cyn hynny.

"Dwi mor hapus! Fedrai ddim rhoi mewn geiriau... cael gafael ynddo fo am y tro cyntaf, ei weld o, cael rhoi sws iddo fo. Mae nghalon i wedi toddi, fedra i ddim stopio gwenu!"

Hefyd o ddiddordeb: