Covid-19: 'Dyfodol canu corawl yn y fantol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Covid-19: 'Dyfodol canu corawl yn y fantol'

Mae 30 o arweinwyr corau a pherfformwyr adnabyddus wedi arwyddo llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig 'mwy o arweiniad' er mwyn i gorau allu ailddechrau ymarferion.

Yn ôl y llythyr, sydd wedi ei anfon at Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas, mae cyfyngiadau yn sgil coronafeirws wedi golygu fod "dyfodol canu corawl yn y fantol".

Ers dechrau'r cyfnod clo mae corau Cymru wedi gorfod rhoi'r gorau i ymarfer gyda nifer bellach yn ymarfer yn rhithiol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "cydnabod yr heriau" i'r sector ond yn mynnu fod eu penderfyniadau wedi eu gwneud yn sgil cyngor gwyddonol.

Disgrifiad o’r llun,

Siân Wheway: 'Cyd-ganu yn llesol iawn i iechyd meddwl'

Ymhlith y 30 o enwau mae un Siân Wheway, arweinydd Côr Dre yng Nghaernarfon.

Fel arfer byddai'r côr o bron i 50 o aelodau yn cwrdd am ddwy awr bob nos Iau yn y capel lleol i ymarfer ond dydy hynny heb ddigwydd ers dros bedwar mis.

"Mae canu corawl yn fwy na jest sefyll a chanu efo'ch gilydd," meddai.

"Mae 'na gymuned yna, mae 'na gyfeillgarwch mawr ac mae hwnna ar goll.

"Mae pawb yn gwybod bod perfformio, cyd-ganu yn llesol iawn i iechyd meddwl a lles emosiynol pobl ac mae colli hyn yn effeithio arnom ni mewn sawl ffordd wahanol."

Ers sawl wythnos mae galwadau lu wedi bod am nawdd i'r sector ac mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fanylu ar becyn o gymorth yn fuan.

Mae'r llythyr, sydd hefyd wedi ei arwyddo gan y soprano Elin Manahan Thomas a'r arweinydd a chyfansoddwr Richard Vaughan, yn galw ar y llywodraeth i ystyried effaith y feirws ar y celfyddydau.

Disgrifiad o’r llun,

Eilir Owen Griffiths: 'Angen arweiniad'

Eilir Owen Griffiths, arweinydd Côr CF1 a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru ysgrifennodd y llythyr.

"Mae o'n sbectrwm eithaf eang a be ydy o fwy na dim byd ydy trio cael canllawiau a chael cyfrifoldeb," meddai.

"Mae 'na gymaint o bad press ar hyn o bryd ar ran canu a chanu mewn grwpiau.

"'Ni jyst isho rhywun i gymryd cyfrifoldeb, i arwain ni, i gael ni'n ôl yn canu eto a bod hynny'n saff i 'neud."

Pryder y gwyddonwyr

Er y galw brys am gefnogaeth mae arbenigwyr iechyd yn dweud y gall canu torfol achosi lledaeniad y feirws.

"Wrth ganu, yn enwedig pan 'da ni'n canu'n uchel, mae o'n cynyddu'r pellter a hefyd y maint o boer sy'n cael ei adael allan," meddai Dr Dylan Jones, darlithydd Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Bangor.

"Yn y poer, yn y particles bach 'ma o boer sy'n cael eu hymledu, 'da ni'n gallu gweld y feirws."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae eu penderfyniadau yn "seiliedig ar gyngor gwyddonol" gyda'r nod o leihau lledaeniad y feirws.

Ychwanegodd llefarydd eu bod nhw "cydnabod yr heriau" i faes celfyddyd a'u bod nhw'n "gweithio gyda'r Cyngor Celfyddydau" i ddod â chorau yn ôl i'r ystafell ymarfer "pan fydd yr amser yn iawn".