Racŵn-gi Sir Gaerfyrddin wedi ei 'ddal a'i ddinistrio'n drugarog'
- Cyhoeddwyd
Mae racŵn-gi a gafodd ei weld yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei "ddal a'i ddinistrio'n drugarog".
Roedd gweinidog amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths, wedi dweud ei bod yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru "weithredu mesurau difa cyflym".
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi cymryd "camau cyflym" yn dilyn cais y gweinidog.
Mae racŵn-gi yn greadur tebyg i lwynog, yn frodorol o Ddwyrain Asia gydag wyneb tebyg i racŵn ond mae'n aelod o deulu'r ci.
Dywedodd Martyn Evans ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae CNC wedi cymryd camau cyflym i ddal racŵn-gi yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn cais diweddar gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
"Mae'r racŵn-gi yn rhywogaeth anfrodorol ymledol a gall fod yn niweidiol i'n bywyd gwyllt, gan gystadlu â llwynogod a moch daear brodorol am fwyd a chysgod a rhagflaenu amffibiaid ac adar sy'n nythu ar y ddaear.
"Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd i gymhwyso mesurau cyflym i symud unrhyw racŵn-gi.
"Gweithiodd staff CNC gyda swyddogion y Llywodraeth, Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr a milfeddyg cymwys i ddal a dinistrio'r racŵn-gi yn drugarog."
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi annog y cyhoedd i gadw draw ohono.
Beth yw racŵn-gŵn?
Yn frodorol i goedwigoedd dwyrain Siberia, gogledd Tsieina, gogledd Fietnam, Korea a Japan
Bellach yn gyffredin mewn rhai gwledydd Ewropeaidd oherwydd iddynt ddianc
Yn bwydo ar bryfed, cnofilod, amffibiaid, adar, pysgod, molysgiaid a chig
Mae'r RSPCA yn annog pobl yn "gryf" i beidio â'u cadw fel anifeiliaid anwes
"Eithriadol o ddrewllyd", meddai'r elusen, oherwydd eu bod yn defnyddio arogl i gyfathrebu
Ffynhonnell: RSPCA
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn adroddiad am racŵn-gi a welwyd gan aelod o'r cyhoedd ger Pumsaint, Sir Gaerfyrddin ar 27 Mai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf bod "Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion wneud cais ffurfiol am gymorth oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru i ddal y racŵn-gi a gweithredu mesurau difa cyflym yn unol â Rheoliad yr UE ar atal a rheoli cyflwyno rhywogaethau goresgynnol estron ac atal rhywogaethau o'r fath rhag lledaenu".
Ym mis Chwefror 2019 ychwanegodd yr Undeb Ewropeaidd racŵn-gŵn at Restr o Rywogaethau Estron Goresgynnol o Bryder i'r Undeb, sy'n ceisio rheoli poblogaethau y bernir eu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt brodorol.
Gall perchnogion presennol gadw'r anifeiliaid, ond gwaharddir bridio neu werthu pellach.
Mae hefyd yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) i ryddhau'r anifeiliaid hyn - neu ganiatáu iddynt ddianc - i'r gwyllt oherwydd nad ydyn nhw'n rhywogaeth frodorol i'r DU.
Yn wreiddiol o'r Dwyrain Pell, cafodd racŵn-gŵn eu cyflwyno i ddwyrain Ewrop fel rhan o'r fasnach ffwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019