Y Bencampwriaeth: Fulham 2-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Aleksandar MitrovicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aleksandar Mitrovic sgoriodd gôl gyntaf Fulham o'r smotyn

Cafodd Caerdydd ergyd i'w gobeithion am ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Fulham nos Wener.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 35 munud, wrth i Aleksandar Mitrovic sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd arno gan Dion Sanderson.

Llwyddon nhw i ddyblu eu mantais yng nghanol yr ail hanner, gyda Josh Onomah yn rhwydo heibio i'r golwr Alex Smithies.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn parhau'n chweched yn y tabl, ond wedi chwarae gem yn fwy na'r timau o'u cwmpas.