Y pandemig 'wedi amlygu bregusrwydd amgueddfeydd'

  • Cyhoeddwyd
Sain Ffagan
Disgrifiad o’r llun,

O'r saith safle sydd gan yr Amgueddfa, Sain Ffagan fydd yn agor gyntaf

Ar ôl i amgueddfeydd ac orielau glywed y bydd modd iddyn nhw ailagor, mae un o benaethiaid Amgueddfa Cymru'n dweud bod y cyfnod clo wedi dangos pa mor fregus yw'r sector yng Nghymru.

Mae 'na rybudd y bydd hi'n dalcen caled ar ôl i'r amgueddfa golli 20% o'i hincwm.

Ers tri mis mae 40% o'i staff wedi bod gartref ar ffyrlo.

Mae'r gweddill wedi bod yn gweithio gartref, gyda rhai'n ymweld â'r safleoedd ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw.

Cyfnod 'od'

Yn eu plith mae rheolwr Fferm Sain Ffagan, Brian Davies.

"Mae hi 'di bod yn od a dweud y gwir, dim gweld neb ond ni 'di gorfod cadw 'mlaen â'r gwaith," meddai.

"Mae gwaith ffermio'n gorfod mynd mla'n o ddydd i ddydd."

Disgrifiad o’r llun,

"Bydd hi'n neis i weld pobl 'nôl 'ma," meddai Brian Davies

O'r saith safle sydd gan yr Amgueddfa, Sain Ffagan fydd yn agor gyntaf, a hynny ddechrau mis Awst.

Mae Mr Davies yn edrych ymlaen at groesawu'r ymwelwyr yn ôl.

"Bydd hi'n neis i weld pobl 'nôl 'ma. Mae'r lle yma'n edrych ar ei orau amser 'ma o'r flwyddyn," meddai.

Er hynny fe fydd y profiad i ymwelwyr yn wahanol iawn. Bydd rhaid archebu tocyn mynediad o flaen llaw a bydd yr adeiladau hanesyddol ynghau i ddechrau.

'Talcen caled'

Yn ôl Nia Williams, cyfarwyddwr addysg ac ymgysylltu'r amgueddfa, ni fydd modd croesawu cynifer o ymwelwyr a bydd yr amgueddfa yn parhau i golli arian meysydd parcio, bwytai, digwyddiadau ac arddangosfeydd.

"Ry'n ni'n amcangyfrif y byddwn ni wedi colli £1.8m yn ystod y cyfnod yma," meddai.

"Mae hynny'n dalcen caled i ni ac wrth gwrs pan fyddwn ni'n ailagor byddwn ni'n gwneud ein harddangosfeydd yn rhad ac am ddim i ddechrau er mwyn denu pobl nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Williams ei bod yn "bwysig iawn mynd i'r afael â gwytnwch y sector"

Mae'r amgueddfa eisoes yn derbyn nawdd cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru ac mae hi'n gobeithio y bydd yna arian ar gael i Gymru yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth San Steffan ynglŷn ag arian i'r celfyddydau.

"Ni'n edrych 'mlaen at sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r grant sydd wedi dod trwyddo i'r celfyddydau ac i dreftadaeth," meddai Ms Williams.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn mynd i'r afael â gwytnwch y sector yn ystod y cyfnod 'ma hefyd achos un o'r pethau mae'r cyfnod wedi ei ddangos yw pa mor fregus yw'r sector yng Nghymru."

Mae'r amgueddfa yn gobeithio edrych ar grantiau eraill hefyd i lenwi'r bylchau yn y coffrau.

Yn y cyfamser mae hi wedi bod yn casglu profiadau pobl o'r cyfnod clo er mwyn creu cofnod o gyfnod hanesyddol.

Wrth i fywyd ddychwelyd i ryw fath o drefn fydd pethau ddim fel oedden nhw, hyd yn oed yn ein hamgueddfeydd.