Diwedd y gân yw'r goron
- Cyhoeddwyd
I'r rheiny sydd, fel fi, yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth a hanes Awstralia mae heddiw yn ddiwrnod mawr a dweud y lleiaf.
Ar ôl blynyddoedd o frwydro yn y llysoedd gorfodwyd i'r archif genedlaethol gyhoeddi'r ohebiaeth rhwng Palas Buckingham a'r Llywodraethwr Cyffredinol adeg diswyddo'r Prif Weinidog Llafur Gough Whitlam yn 1975.
Roedd yr archif wedi dadlau mai gohebiaeth breifat oedd y 211 o lythyrau a gyhoeddwyd heddiw. Doedd dim modd eu rhyddhau felly heb gytundeb y Frenhines a doedd hithau neu ei swyddogion ddim yn fodlon rhoi'r caniatâd hwnnw.
I haneswyr roedd y syniad y gallai dogfennau sydd yn greiddiol i hanes gwleidyddol Awstralia gael eu cadw'n ddirgel ar fympwy menyw ym mhendraw'r byd yn sarhaus. Am unwaith, yr haneswyr wnaeth ennill y ddadl.
Nawr, mae'r llythyrau'n ddiddorol ynddyn nhw eu hun ond maen nhw hefyd yn rhybudd pwysig ynghylch y peryglon o gredu'n ormodol ar rym confensiynau mewn gwledydd sydd a'u cyfansoddiadau'n seiliedig ar gyfundrefn Westminster.
Cymerwch enghraifft. Does neb yn gwadu am eiliad bod gan y Goron, y Frenhines hynny yw, hawl didramgwydd i benodi a diswyddo Prif Weinidogion ond mae'r syniad y byddai Elisabeth II yn diswyddo Prif Weinidog oedd â chefnogaeth mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin y tu hwnt o bob dychymyg.
Ond dyna oedd yr union bŵer a ddefnyddiwyd gan Syr John Kerr i ddiswyddo Whitlam, ac mae'n brawf o ba mor beryglus yw credu na fydd pwerau sy'n bodoli ar bapur byth yn cael eu defnyddio.
Mae hynny'n bwysig wrth i ni ystyried y tensiynau cynyddol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y naill law a llywodraethau Cymru a'r Alban ar y llall.
Priodolir y geiriau "power devolved is power retained" i Enoch Powell gan amlaf ond mae'r pwynt yn un digon amlwg. Mae San Steffan yn gallu cymryd yn ogystal â rhoi.
Os ydy Boris Johnson o ddifri wrth ddweud y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladu traffordd newydd i liniaru'r M4 yng Nghasnewydd mae modd iddi wneud hynny.
Gallaf ddychmygu'n hawdd y dadleuon a fyddai'n cael eu defnyddio i gyfiawnhau cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cael cyflawni prosiectau o 'bwys strategol i'r deyrnas gyfan'.
Yn yr un modd os ydy Llywodraeth y DU yn penderfynu mae hi, a hi'n unig, fydd yn llunio amodau a rheolau'r farchnad sengl newydd rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr fydd angen ei chreu yn sgil Bregsit does 'na fawr ddim y gall Bae Caerdydd a Holyrood wneud ynghylch y peth.
Byddai, fe fyddai 'na lawer o weiddi a sgrechian ac argyfwng cyfansoddiadol go ddifrifol ond, fel y canfu Whitlam, diwedd y gân yw'r goron.