Kate y Fet: 'Mae dweud bod anifail ar fin marw mor anodd'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn gwella," meddai Kate O'Sullivan, "ond y peth anoddaf yn y byd yw dweud wrth berchennog bod ei anifail yn sâl iawn neu wedi marw."
Mae Kate, sy'n wreiddiol o Ogledd Iwerddon, yn un o'r milfeddygon sy'n cael eu portreadu yn rhaglen Y Fets ar S4C a hi fel arfer sy'n gwneud y llawdriniaethau cymhleth ac yn ffonio'r perchnogion.
"Dyw e ddim yn synnu fi," meddai Kate sy'n byw yn Llandre ger Aberystwyth, "bod stress yn uchel ymhlith milfeddygon. Yn aml ry'n ni'n gorfod penderfynu a yw'n werth achub bywyd anifail ac yna'n gorfod dweud y newyddion drwg wrth bobl sydd mor attached i'w hanifeiliaid.
"Mae'r euogrwydd yn gallu bod yn enfawr ac yn aros gyda chi am hir iawn. I lawer iawn o bobl y ci, y gath neu'r bwji yw eu bywyd!
"Mae triniaethau yn gallu bod yn ddrud a chi'n gorfod ystyried a yw'n werth i'r perchennog dalu'r arian. Rhan fawr o'r swydd yw dod i adnabod y cleient a gwybod sut i ymateb i'w hemosiynau nhw. Mae cyfathrebu gyda nhw mor bwysig a bod yn hollol onest.
"Mae milfeddygon hefyd yn gyfrifol am redeg y busnes - mae'n gallu bod yn anodd delio gydag ochr ariannol pethau. Dwi wastad yn trio 'neud fy ngorau be' bynnag dwi'n neud - mae'n rhan o'n magwraeth i."
'Ddim yn saff i fynd allan'
Kate yw'r hynaf o dair merch - roedd ei thad yn gweithio mewn ffatri a'i mam yn coginio yn yr ysgol leol yn Lorgan, rhyw 18 milltir i'r de orllewin o Belffast.
"Ges i blentyndod ofnadwy o hapus i ddweud y gwir," meddai, "roedd fy rhieni yn awyddus i ni gael pob cyfle ac oherwydd hynny dwi'n meddwl bod yn rhaid i fi wastad 'neud fy ngorau. Do'n i ddim am eu siomi. Ond ro'dd bywyd yng Ngogledd Iwerddon yn y saithdegau yn gallu bod yn anodd.
Tensiwn
"Roedd y trafferthion yn backdrop i bopeth. Do'n i byth yn gallu hongian o gwmpas - dwi'n cofio cerdded i'r ysgol un bore a phlismon yn gafael ynof fi wrth i saethu ddigwydd gerllaw. Roedd yna wastad deimlad o densiwn, fe fyddai 'na controlled explosion a doedden ni'r Catholigion ddim yn cael cymysgu â'r Protestaniaid.
"Ro'n i weithiau yn gwneud rhai gweithgareddau ar y cyd fel cerddorfeydd, ysgol ddrama a marchogaeth. Dwi'n cofio wedi i fi neud arholiadau lefel A ein bod wedi cael ein gwahodd i fynd draw i prom yr ysgol Brotestannaidd - ro'dd hynny yn beth mawr ac roedd bechgyn ein hysgol ni wir yn ofnus. Yn aml do'dd hi ddim yn saff i fynd allan ac ro'dd y sgyrsiau adre wastad yn rhai gwleidyddol."
"Do'n i ddim eisiau aros yng Ngogledd Iwerddon a dyma fynd i Ddulyn i'r Brifysgol - cael amser ffantastig yno a chael bod yn rhan o grwpiau merched oedd yn trafod hawliau cyfartal a chynllunio teulu. Ro'dd Iwerddon gymaint ar ei hôl hi," ychwanegodd Kate.
"Ro'n i oddeutu 11 oed pan 'nes i benderfynu bod yn fet. Dwi'n cofio bod ar fferm gyfagos a gweld cyrn buwch yn cael eu tynnu. Ro'dd gwaed ymhobman a 'nes i feddwl mai dyna ro'n i eisiau 'neud. O'dd e'n ffantastig!
"Mae'n yrfa wych - yn well na meddygaeth, dwi'n meddwl. Gyda meddygaeth ry'ch chi'n gorfod penderfynu'n gynnar pa faes ry'ch am ei ddilyn ond mae milfeddyg yn gallu datblygu sgiliau ymhob maes. Dwi nawr newydd ddechrau 'neud keyhole surgery - a mae'n grêt. Dwi'n cael cyfle i ddysgu rhywbeth newydd o hyd."
'Gorfod dysgu Cymraeg'
Aeth Kate ar brofiad gwaith i Landeilo ac yn y fan honno y cyfarfu â'i gŵr Phil, sydd hefyd yn bartner ym Milfeddygfa Ystwyth.
"Dyw e ddim yn ymddangos mor aml â fi ar y rhaglen. Mae e'n 'neud lot o waith profi TB a lot o waith rheoli - gwaith sy'n fwy diflas i'r camera," meddai Kate.
"Yn Llandeilo ro'dd rhaid i fi ddysgu Cymraeg. Dwi'n cofio ro'dd pob ffermwr yn Davies neu Jones ac ro'n i yn cael fy ngyrru i ffermydd ag enwau tebyg i Glanrafon Ddu Ganol - ro'dd rhaid i fi ddysgu gan fod yr enwau yn golygu dim i fi.
"Do'dd teulu Phil ddim yn siarad Saesneg 'da fi ac ro'dd hynna yn lot o help. Dwi wir yn meddwl bod e'n bwysig siarad iaith y wlad ry'ch chi'n byw ynddi ac os ydw i'n gallu 'neud mae unrhyw un yn medru - dwi i ddim yn ieithydd o bell ffordd.
Addasu yn sgil coronafeirws
"Dwi a Phil yn un o sawl partner Ystwyth Vets ac wedi diwrnodau anodd mae e wir yn help siarad am y gwaith ar ôl dod adref. Mae'r plant yn credu bo ni'n siarad am waith drwy'r amser ond mae gen i nifer o ddiddordebau eraill hefyd - dwi'n rhedeg, cyfeiriannu, seiclo, dysgu chwarae cello ac yn trio dysgu Ffrangeg!"
Mae'r filfeddygfa wedi gorfod addasu tipyn yn sgil Covid-19 drwy gynnal sesiynau ymgynghori dros y we a newid y dull o weithio yn y swyddfa.
"Ydi mae hynna hefyd wedi bod yn her arall," meddai Kate, "Phil sydd wedi delio â hyn fwyaf ond rhaid i ni sicrhau bod staff, teuluoedd a chwsmeriaid yn gwbl saff. Fel gyda phobl mae llai o waith routine wedi bod yn digwydd a dim ond gwaith brys.
"Mae'n yrfa eitha heriol yn aml ond does dim byd yn rhoi mwy o bleser i rhywun na gwella anifail a gweld y wên 'na ar wyneb y perchnogion. I'r rhan fwyaf mae'r anifail yn rhan ganolog o'r teulu.
"Pe bawn i'n gorfod dewis - ceffyl yw fy hoff anifail, dwi'n hoffi cŵn hefyd ond i ddweud y gwir dwi'n meddwl y byd o bob un a wastad yn trio neud bywyd yn well iddyn nhw a'u perchnogion."
Hefyd o ddiddordeb: