Cyn-ohebydd a phregethwr yn cyfaddef cam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
ben thomasFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ben Thomas yn cael ei ddedfrydu ar 18 Awst

Mae cyn-weinidog efengylaidd a chyn-gyflwynydd newyddion gyda BBC Cymru wedi cyfaddef cam-drin plant.

Roedd 40 o gyhuddiadau yn erbyn Ben Thomas yn ymestyn dros dri degawd, o 1990 hyd 2019.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, fe blediodd Thomas yn euog i droseddau yn cynnwys ymosod yn rhywiol, sbecian (voyeurism) a chreu delweddau anweddus o blant.

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Thomas y byddai'n derbyn "cydnabyddiaeth sylweddol am bledio'n euog mor gynnar" yn y broses gyfreithiol.

Ychwanegodd y barnwr y byddai'n derbyn y "credyd uchaf" ond y "ddedfryd anochel fydd dedfryd sylweddol dan glo".

Fe ddigwyddodd y troseddau yng ngogledd Cymru, Sir Amwythig, Llundain a Romania, gyda dynion a bechgyn yn ddioddefwyr.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan 18 Awst, pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Ben Thomas y BBC yn 2005 i fod yn bregethwr

Fe gafodd Ben Thomas ei gyflogi gan BBC Cymru rhwng 1998 a 2005 gan weithio ar raglenni Ffeil a BBC Wales Today.

Doedd dim o'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud â'i waith gyda'r gorfforaeth.

Doedd BBC Cymru ddim am wneud sylw.

Fe adawodd Thomas y BBC i fynd yn weinidog efengylaidd gan ddod, maes o law, yn weinidog ar Eglwys Deuluol Cricieth yng Ngwynedd.

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd Eglwys Deuluol Cricieth mewn datganiad fod ei "arestiad ym Medi 2019 yn fraw i'r eglwys, y gymuned yng Nghricieth a thu hwnt".

"Cyn i Ben ddod i'r eglwys derbyniwyd geirda canmoladwy ac yn ystod ei gyfnod efo ni cyflawnwyd gwiriadau diogelwch boddhaol.

"Mae datguddiad o bechod o'r fath yn dorcalonnus ac rydym yn galaru dros y boen a achoswyd i ddioddefwyr diniwed, a thros y bradychu a'r twyll."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Deuluol Cricieth

Ychwanegodd y datganiad: "Cynigiwyd a derbyniwyd ymddiswyddiad Ben yn syth ar ôl iddo gael ei arestio ond fel eglwys nid oedd gennym lawer o wybodaeth.

"Yr ydym yn ymrwymo, pan fo hynny'n bosibl, i fod yn agored a thryloyw gyda'n partneriaid a'r gymdeithas ehangach ond rydym wedi gorfod parchu fod yr awdurdodau yn arwain ymchwiliad difrifol a sensitif.

"Mae'r eglwys yn ddiolchgar am y consyrn a'r ddealltwriaeth a ddangoswyd i ni gan ein cymdogion yng Nghricieth a hwythau hefyd yn dygymod â galar, dryswch a dicter am y troseddau a'r twyll."

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ein gweddïau yn awr dros y dioddefwyr a'u teuluoedd. Yr ydym hefyd yn ceisio cefnogi partneriaid yr eglwys ac eraill wrth i ni gyd ddygymod â'r newyddion hyn."

'Torri ymddiriedaeth'

Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lynne Willsher o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd troseddu Ben Thomas yn cynnwys cam-drin rhywiol difrifol yn erbyn plant ifanc gan arweinydd crefyddol.

"Mae'n doriad ofnadwy o'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo gan y dioddefwyr a'u teuluoedd. Ni allaf ddechrau dychmygu pa effaith mae datgelu ei droseddau wedi'i gael arnynt.

"Heddiw yn y llys, mae Ben Thomas wedi cyfaddef i 40 o droseddau rhywiol. O ganlyniad i hyn, mae ei ddioddefwyr wedi osgoi'r dioddefaint gofidus o achos hir.

"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ddiolchgar iawn am y cryfder a'r dewrder a ddangoswyd gan yr holl ddioddefwyr a'u teuluoedd. Mae hyn wedi cynorthwyo ein hymchwiliad yn fawr er mwyn sicrhau fod cyfiawnder wedi bod heddiw.

"Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Eglwys Efengylaidd a'u tîm diogelu am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Thomas yn gyn-gyflwynydd ar y rhaglen newyddion i blant, Ffeil

Mewn ymateb i gyfaddefiad Ben Thomas, dywedodd yr elusen diogelu plant, NSPCC, mewn datganiad: "Byddai'r gweithredoedd erchyll hyn wedi cael effaith ddifrifol ar y plant a phobl ifanc gafodd eu targedu, ac mae'n bwysig eu bod yn gallu cael mynediad i gefnogaeth barhaus i'w cynorthwyo i symud ymlaen.

"Mae Thomas wedi cyfaddef iddo gyflawni nifer fawr o droseddau rhyw dros gyfnod maith ac mae'n gywir ei fod nawr yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd.

"Mae'n hanfodol fod unrhyw un sydd wedi eu cam-drin yn teimlo'n ddiogel i adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, pa bynnag mor bell yn ôl y digwyddodd y drosedd, gan wybod y byddant yn derbyn clust fydd yn gwrando arnynt."