Galw am ailgyflwyno mesurau ymbellhau yn siop Tesco
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi galw ar gwmni Tesco i ailgyflwyno mesurau i sicrhau ymbellhau cymdeithasol yn eu harchfarchnadoedd.
Yn ôl Cris Tomos, Cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Crymych, mae e wedi derbyn gohebiaeth gan bobl yn ei etholaeth yn cwyno bod y system unffordd a chiwio yn y siop yn Aberteifi wedi diflannu.
Mae'n dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu gan bod mwy o ymwelwyr yn yr ardal.
Dywed Tesco eu bod wedi cael gwared â'u systemau unffordd am fod "hynny'n creu ei broblemau ymbellhau cymdeithasol ei hunan".
'Arwyddion wedi diflannu'
Dywedodd y Cyng Cris Tomos: "Dwi wedi cael nifer fawr o bobl yn ffonio ac yn dweud bod Tesco wedi newid yr arddull maen nhw yn arddangos ar yr arwyddion Covid-19 ac wedi tynnu lawr y posteri 2m ac mae'r arwyddion ar y llawr wedi diflannu.
"Maen nhw wedi gweld pobl yn mynd bob ffordd ac yn agos iawn, felly pryderon pobl yn agosáu o ran Covid-19.
"Mae'n amlwg bod yna newid polisi wedi bod. Mae'n bwysig i'r cwmni yng Nghymru i edrych beth yw'r canllawiau ac mae rhaid dilyn 2m yn y siopau.
"Mae'r siopau bach yn dilyn y cyfarwyddiadau. Mae angen cwrdd gyda'r mawrion yn Tesco. Mae'r economi yn agor lan a phobl yn teithio i orllewin Cymru o bob man.
"Mae pobl lleol yn dweud bod hi'n hollol annerbyniol. Mae pobl dros ben ei gilydd. Mae rhaid rhoi'r mesuriadau yma nôl."
Fe godwyd y mater gan Helen Mary Jones, yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ddydd Iau.
"Rwy'n siŵr bydd y Gweinidog yn bryderus am hyn. Rwy'n poeni nad yw busnesau mawr yn sylweddoli bod y rheol 2 fetr yn dal i fod yn angenrheidiol o safbwynt cyfreithiol."
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates ei fod wedi ysgrifennu at archfarchnadoedd.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, mae Llywodraeth Cymru wedi "atgoffa archfarchnadoedd o'u cyfrifoldebau yn ymwneud gydag ymbellhau cymdeithasol".
Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cais i ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bennaf ac rydym yn parhau i weithredu ymbellhau cymdeithasol yn ein siopau yn unol â'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
"Roeddem yn fwriadol ofalus yn ein amcangyfrifon cynnar, gan gynllunio i adael 4m o le ar gyfer pob cwsmer, ac mae ein canllawiau diweddaraf yn dal i ganiatáu 2m o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
"Gall rheolwyr ein siopau wneud penderfyniadau lleol i leihau'r capasiti ymhellach os oes angen.
"Gwnaethom i ffwrdd â systemau unffordd yn ein siopau achos, o'n profiad ni, roedd hynny'n creu ei broblemau ymbellhau cymdeithasol ei hunan.
"Mae sticeri llawr ac arwyddion ymbellhau yn dal mewn lle yn ein siopau yn ogystal â nifer o fesuriadau eraill, yn cynnwys mannau glanhau troliau a dwylo, PPE ar gyfer cydweithwyr a sgriniau ar gyfer y mannau talu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020