Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 1-3 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gôl Sean Morrison oedd ei gyntaf i'r clwb ers mis Rhafgyr

Cafodd Caerdydd hwb enfawr i'w gobeithion o sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Middlesbrough brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen o fewn pum munud, wrth i'r capten Sean Morrison rwydo gyda pheniad o gic gornel Joe Ralls.

Dyblwyd y fantais ar ddechrau'r ail hanner, gyda Josh Murphy yn sgorio yn dilyn pas dda i'w lwybr gan Lee Tomlin.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ychwanegu trydedd gyda 10 munud yn weddill, wrth i Murphy rwydo ei ail gôl yn dilyn gwaith da ar yr asgell dde gan Nathaniel Mendez-Laing.

Llwyddodd Middlesbrough i sgorio gôl gysur yn y munudau olaf, gyda Britt Assombalonga yn sgorio o gic rydd, cyn i Jonny Howson gael ei yrru o'r maes i'r tîm cartref wedi iddo gael ail gerdyn melyn.

Mae'r canlyniad yn golygu mai un pwynt sydd ei angen ar Gaerdydd yn erbyn Hull yng ngêm ola'r tymor nos Fercher er mwyn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Mae gweddill canlyniadau dydd Sadwrn yn golygu y bydd o leiaf un tîm o Gymru yn rhan o'r gemau ail gyfle gan mai dim ond Abertawe all atal Caerdydd rhag gorffen yn y chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth.