Canslo'r Sioe Frenhinol 'i'w deimlo am flynyddoedd'

  • Cyhoeddwyd
SioeFfynhonnell y llun, Gwyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caeau o amgylch y safle fel arfer yn llawn yr adeg yma o'r flwyddyn

Mae perchnogion busnesau yn ardal Llanfair-ym-Muallt yn dweud bod yr ergyd economaidd o ganslo'r Sioe Frenhinol eleni yn mynd i barhau am flynyddoedd.

Mae'r sioe - fyddai wedi dechrau ddydd Llun - yn denu 8,000 o anifeiliaid a bron i chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda chyfraniad o ryw £40m i economi'r canolbarth.

Mae hefyd yn cael ei disgrifio fel y sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop.

Ond eleni mae'n stori dra gwahanol - mae maes y sioe a'r caeau cyfagos yn Llanelwedd i gyd yn wag, ac mae'r safle nawr yn ganolfan brofi ar gyfer Covid-19.

'Digwyddiad mor bwysig'

I Bethan a Rhodri Jones, brawd a chwaer sy'n byw ar fferm Lower Argoed ger Llanfair-ym-Muallt, mae'r sioe yn gyfle iddyn nhw arddangos a marchnata eu defaid Jacob.

Mae Bethan hefyd yn gweithio fel swyddog da byw ar gyfer y sioe - mae hi ar ffyrlo o'i gwaith ar hyn o bryd, ac iddi hi mae pob agwedd o'i bywyd wedi'i effeithio gan ganslo'r sioe.

"Dyw e ddim jest yn effeithio bywyd bob dydd fi ond ma' fe hefyd yn ffenest siop ar gyfer ein hanifeiliaid," meddai.

"Ry'n ni'n mynd â'r defaid Jacob bob blwyddyn ac mae'n gyfle i'w marchnata nhw a'u gwerthu.

"Mae'n ddigwyddiad mor bwysig i fi, fy nheulu a phawb sy'n byw yn yr ardal yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sioe yn "ffenest siop" i ffermwyr fel Rhodri a Bethan Jones

Mae Cymdeithas y Sioe Frenhinol yn amcangyfrif cost uniongyrchol o £1.2m wrth ganslo sioe eleni.

Maen nhw hefyd yn darogan y gall gymryd hyd at bum mlynedd i ddod i dermau gyda'r colledion hynny.

Ond fe fydd yr effaith economaidd i'w deimlo ymhell tu hwnt i faes y sioe.

Tref gyfagos Llanfair-ym-Muallt fydd yn debygol o ddioddef fwyaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae maes y sioe yn ganolfan brofi am Covid-19 ar hyn o bryd

Fe fyddai ystafelloedd gwesty'r Greyhound yn y dre' wedi cael eu harchebu ers sioe y llynedd - dyma wythnos brysura'r flwyddyn i'r perchennog Alison Parker, sydd ddim am ddyfalu faint fydd y colledion ariannol iddi hi.

"Mae'n codi ofn arna i. Sai' ishe meddwl amdano fe achos ma' gyda ni stafelloedd gwag," meddai.

"Allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw'r un wythnos yma o'r flwyddyn - nid dim ond pedwar diwrnod y sioe ond yr wythnos cynt a'r wythnos wedyn.

"Fel arfer, mae'r arian ry'n ni'n cymryd yn ystod wythnos y sioe yn cadw ni i fynd drwy fisoedd tawel Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.

"Fydd hynny ddim gyda ni eleni ac oherwydd bod digwyddiadau arall ar faes y sioe hefyd wedi'u canslo, fydd yr incwm yna ddim ar gael chwaith. Mae'n golled enfawr i'r dref."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alison Parker bod y sioe yn "cadw ni i fynd trwy'r misoedd tawel"

Yn ogystal â'r sioe, mae'r safle hefyd yn cynnal y Ffair Aeaf, Gŵyl y Gwanwyn a digwyddiadau eraill fel sioeau cŵn a chynadleddau.

Mae nifer o'r rhain hefyd wedi'u canslo eleni, er does dim cyhoeddiad eto am y Ffair Aeaf.

'Straen meddyliol ac ariannol'

Mae tir fferm Penmaenau ar lethrau'r bryniau o amgylch maes y sioe.

Mae'r busnes teuluol yma yn gosod caeau ar gyfer gwersylla a pharcio, ac yn cyflenwi staff diogelwch yn ystod wythnos y sioe.

Mae'r siediau ar y clôs hefyd yn cynnal cyngherddau a phartïon gyda'r nos.

Ond does dim gwaith ar gyfer y cannoedd o staff ychwanegol sy'n cael eu cyflogi gan y teulu yn ystod y sioe.

Ffynhonnell y llun, Gwyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyn Davies yn dweud y bydd adfywio'r economi leol yn fwy o her mewn ardal wledig

Mae un o'r cyd-berchnogion - Gwyn Davies - hefyd yn faer ar dref Llanfair-ym-Muallt, ac mae'n mynnu y bydd adfywio'r economi leol yn fwy o her mewn ardal wledig.

"Mae'r sioe yn cael effaith ar gymaint o bobl - sy'n gwneud arian yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r sioe," meddai.

"I'r tafarndai a thai bwyta ar y brif stryd, mae hyn yn rhan allweddol o'u hincwm blynyddol.

"Fe fydd hi'n straen yn feddyliol ac yn ariannol ar unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r sioe.

"Ni jest yn gobeithio daw'r sioe 'nôl yn gryfach fyth fel ein bod ni gyd yn gallu symud ymlaen."

Cynnal y sioe ar-lein

Sioe ddigidol fydd yn cael ei chynnal eleni, gyda chyfle i bobl rannu eu hatgofion a'u profiadau o sioeau'r gorffennol ar-lein.

Ond ni fydd hyn yn gysur i'r nifer o fusnesau yn y canolbarth a thu hwnt sy'n dibynnu ar un wythnos ym mis Gorffennaf af gyfer eu bywoliaeth.