Ailagor meysydd chwarae a champfeydd awyr agored

  • Cyhoeddwyd
Mae sawl campfa wedi symud eu hoffer i fod tu allanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl campfa wedi symud eu hoffer i fod tu allan

Bydd meysydd chwarae, ffeiriau, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn ailagor ddydd Llun.

Dyma ail ran pecyn o fesurau i ailagor rhannau o'r sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yng Nghymru.

Wrth gyhoeddi'r newidiadau diweddaraf i'r cyfyngiadau, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Gwener fod modd gwneud hynny "gam wrth gam... gyda chyfraddau'r feirws yn dal i gwympo yng Nghymru.

Rhybuddiodd hefyd i bobl osgoi "meddwl bod y feirws wedi gadael y tir. Gallai'n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru'n ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Humphreys yn falch fod modd cymryd cam yn agosach at y drefn arferol

'Awn ni amdani'

Wedi misoedd o gynnal sesiynau ar-lein i'w gleientiaid, mae Mark Humphreys, perchennog campfa Enzone ym Mangor, yn croesawu'r cyfle i addasu unwaith eto a dechrau cynnig dosbarthiadau awyr agored i'w gleientiaid.

"'Dan ni jest abowt yn llawn - 'dan ni ond yn ca'l 30 maximum efo bob dosbarth," meddai wrth Post Cyntaf. "Ma' 'na dipyn go lew wedi dangos diddordeb. 'Dan ni'n cychwyn fory a dwi'n really excited amdano fo, a dwi'n siŵr bod nhw i gyd hefyd.

"Doedd o ddim yn dewis cynta', yn amlwg, ond mae o'n r'wbath fedran ni neud i bawb. Mae'n r'wbath sydd yn reit newydd i ni gyd ond 'dan ni'n gorfod addasu a mae o jest y step nesa', gobeithio, at ga'l ryw fath o normaliaeth yn ôl."

Mae'n cydnabod y bydd rhai pobl yn ansicr ynghylch dychwelyd yn syth, er y camau i sicrhau fod y sesiynau'n cael eu cynnal o fewn y canllawiau i'w cadw'n ddiogel.

Bydd hefyd yn croesi bysedd am dywydd ffafriol. "Mae hynna'n un sialens fawr... Mae arna'i ofn bydd rhaid i neud efo be sginnon ni.

"Dwi'n siŵr bod pobol ddim yn meindio [bod] dipyn bach yn fwdlyd... ond dwi 'di neud siŵr bod nhw gyd yn gw'bod i ddod â'u rainproofs a'u t'weli a dillad sbâr efo nhw yn eu ceir, jest rhag ofn. Awn ni amdani, beth bynnag."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae parciau chwarae yn cael ailagor ddydd Llun

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Gwener llacio'r cyfyngiadau yn achos canolfannau cymunedol ailagor yn golygu eu bod "yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau'r haf".

Ond fe bwysleisiodd y Prif Weinidog nad oes gorfodaeth arnyn nhw i ailagor.

Drwy'r cyfnod clo mae Canolfan Ni yng Nghorwen wedi ymdrechu i gadw gwasanaethau cymunedol i fynd, gan siopa ar ran pobl, dosbarthu pryd ar glud, rhannu presgripsiynau a ffonio pobol yn gyson.

Ond er bod staff wedi dychwelyd i'r ganolfan ddydd Llun, bydd y cyhoedd ddim yn cael mynd yna am y tro.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid pwyllo cyn ailafael yn holl waith arferol Canolfan Ni, medd Sally Lloyd Davies

Dywedodd Sally Lloyd Davies rheolwr datblygu'r ganolfan, fod angen "eistedd lawr, cymryd cam yn ôl a meddwl sut 'dan ni'n gallu gweithio yn wahanol i wneud yn siŵr bod pobol yn cael eu edrych ar eu hôl, yn cael y cysylltiad yne efo fi neu rhywun o'r tîm mynd i weld nhw hwyrach un i un.

"Ond ar hyn o bryd 'den ni angen gwneud asesiad risg o bob dim ac ailedrych ar bob dim cyn i ni ail agor y drysau yma."

Mae ffeiriau hefyd yn cael ailagor yn dilyn amser i ystyried sut i roi mesurau priodol ar waith cyn i'r cyhoedd ddychwelyd.

Y camau nesaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i nifer o fusnesau eraill ddechrau paratoi ar gyfer ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd amodau'n caniatáu. Y busnesau hynny yw:

  • salonau harddwch ac ewinedd a busnesau lliw haul, massage, tyllu'r corff, tatŵs, electrolysis ac aciwbigo;

  • sinemâu, amgueddfeydd, orielau ac archifdai dan do;

  • llety i dwristiaid, â chyfleusterau wedi'u rhannu, fel meysydd pebyll (yn cael agor o 25 Gorffennaf);

  • y farchnad dai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai siopau tatŵs a busnesau eraill o fewn y diwydiant harddwch ailagor ar 27 Gorffennaf

Os bydd y sectorau hyn yn ailagor yn llwyddiannus a bod amodau'n caniatáu, bydd lleoedd dan do fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai'n cael ailddechrau o 3 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o reoliadau'r coronafeirws.

Dim cynhadledd ddyddiol

Fydd yna ddim cynhadledd ddyddiol yr wythnos hon. Yn hytrach, fe fydd cynhadledd wythnosol bob dydd Mawrth, ac un ychwanegol ar ddyddiau Gwener yn ystod wythnosau adolygu cyfyngiadau, sef bob tair wythnos.

Bydd y gynhadledd wythnosol nesaf ddydd Mawrth, a'r gynhadledd adolygu nesaf ddydd Gwener, 31 Gorffennaf.