Gwario £1m i atal llifogydd arall yn Rhostryfan
- Cyhoeddwyd
Wyth mlynedd ar ôl i lifogydd daro pentref Rhostryfan ger Caernarfon mae Cyngor Gwynedd wrthi'n dechrau ar waith gwerth £1m i wella'r system amddiffynfeydd.
Fe gafodd nifer o dai eu difrodi yn 2012 yn dilyn cyfnod o law trwm ac fe arweiniodd hynny at rwbel yn rhwystro sgrin atal llifogydd, cyn i Afon Wyled orlifo'i glannau.
Dywedodd un teulu lleol y byddai'r gwaith yn rhoi "tawelwch meddwl" iddyn nhw.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mi fydd y gwaith lliniaru yn "amddiffyn 38 eiddo".
Ym mis Tachwedd 2012 fe wyliodd Melfyn a Gwenda Jones lefelau dŵr yr afon ger eu tŷ yn cynyddu a chyn pen dim mi oedd hi wedi gorlifo gyda dŵr yn tasgu mewn i'r tŷ.
"Mi oedd 'na tua pedair troedfedd o ddŵr yn y tŷ 'ma ac roedd cymdogion, ffrindiau a'n teulu ni yma ar unwaith", meddai Melfyn Jones.
"Cawsom ni fynd a llawer o betha fyny grisiau ond oedd bob dim arall, y dodrefn, y carpedi wedi difetha.
"Oedd rhaid imi agor y drws ffrynt i'r dŵr fynd allan a fu rhaid i ni symud o'r cartre' am hanner blwyddyn."
Yn ôl Cyngor Gwynedd fe arweiniodd glaw trwm at "dalpiau mawr o falurion" yn rhwystro'r sgrin atal rhag weithio.
Bellach mae'r gwaith wedi dechrau i osod teclyn fydd yn gallu ymdopi yn well â phroblemau tebyg, yn ôl Petra Irvine, Uwch beiriannydd gyda Chyngor Gwynedd.
"Mae'r ddau gylfat sydd yn y lôn ar hyn o bryd mewn cyflwr reit hen ond gyda hyn fydd y dŵr yn gallu llifo drwodd," meddai.
"Dyna oedd y bwriad, neud yn siŵr bod pobl ddim yn poeni trwy nos... mae lot yn poeni pan mae'r glaw yn dod neu pan maen nhw'n mynd ar eu gwyliau".
Un fuodd yn helpu trigolion yn 2012 oedd y cynghorydd lleol Aeron Jones.
"Buasai'r lôn 'ma yn gallu colapsio unrhyw adeg gan fod y cylfat wedi malu felly mae 'na beryg i fywyd yma", meddai.
"Dau beth gwaeth geith rhywun mewn tŷ ydi tân a dŵr - mae'r ddau yn neud llanast- ond mae hwn yn osgoi hynny i'r dyfodol."
Wrth i waith fynd rhagddo mae'r cynllun yn rhoi tawelwch meddwl i Melfyn Jones, ei deulu a'i gymdogion.
"Oeddan ni yng nghanol y ddrycin ond rŵan mae'n dawelwch meddwl i ni a dwi'm yn meddwl gwelwn ni byth ffasiwn beth eto," meddai.
Mae'r gwaith yn enghraifft arall o ymgais Llywodraeth Cymru i addasu isadeiledd cymunedau Cymru i'r heriau mae newid hinsawdd a thywydd eithafol yn achosi - a'r canlyniad - sicrwydd i bobl leol na ddaw dinistr tebyg, fyth eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2012