Rhybudd am orddibyniaeth ar fewnforion bwyd

  • Cyhoeddwyd
IeirFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ieir yn cael eu clorineiddio yn yr UDA

Mae Cadeirydd Bwrdd y Sioe Frenhinol wedi rhybuddio y gallai gorddibyniaeth ar fewnforion bwyd rhad beryglu dyfodol ein cyflenwad bwyd fel gwlad yn y dyfodol.

Gyda'r Sioe Frenhinol wedi ei chanslo eleni, yn sgil effaith argyfwng Covid-19, dywedodd John Davies wrth raglen Newyddion y gallai'r "deialog sydd yn digwydd nawr ein harwain ni i sefyllfa ble fyddwn ni ddim hyd yn oed yn bwydo ein hunain ac mae hynny yn sefyllfa beryglus iawn tu hwnt.

"Pan chi'n ddibynnol ar wledydd eraill i fwydo eich cenedl, mae'n bolisi ac yn strategaeth beryglus tu hwnt a dyna'r cyfeiriad ni'n mynd iddo yn raddol. Mae'n bwysig ein bod ni yn parchu ein marchnadoedd sydd gyda ni ac mae Ewrop yn rhan hanfodol o hynny.

"Wrth gwrs, mae'n iawn i ddatblygu marchnadoedd newydd ond cadwch ffiniau a gwnewch e tu fewn i reolau masnachu teg."

Mae yna ddarogan cryf y bydd Prydain yn ceisio sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, ac mae yna bryder y gallai hynny olygu agor cil y drws i fewnforion bwyd rhad fydd yn tanseilio gallu ffermwyr Cymru i gystadlu, ond hefyd yn is-raddol o ran safonau.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Bwrdd y Sioe Frenhinol, John Davies

Mae dros filiwn o bobl wedi arwyddo deiseb arlein gan undeb yr NFU yn galw am gynnal safonau bwyd yn sgil unrhyw gytundeb masnach posib.

Mae yna bryder hefyd na fydd hi'n bosib sicrhau cytundeb masnach cynhwysfawr gydag Ewrop cyn diwedd y cyfnod trawsnewid ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, mae amaethwyr Cymru yn wynebu "storm berffaith."

Dywedodd: "Mae gyda ni y potensial rŵan o golli cytundeb efo Ewrop, posibilrwydd o gig o safon salach yn dod o America, problemau'r coronafeirws, newid strwythur amaeth yn cael ei ariannu. Mae e fel perfect storm. Dyna pam 'da ni fel undeb wedi galw am estyniad i'r trafodaethau efo Ewrop os na fydd cytundeb masnach cyn mis Ionawr."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae Hefin Jones, Is-gadeirydd NFU Cymru yn Sir Gaerfyddin yn dweud bod hi'n glir bod angen i wleidyddion wrando ar y farn gyhoeddus:

"Mae angen i ni eistedd lawr ac ail-feddwl am bwysigrwydd bwyd. Mae yna bryderon am beth allai ddod mewn i'r wlad yn sgil cytundeb gydag America neu unrhyw wlad arall lle dyw'r safonau cynhyrchu ddim yr un peth a'r safonau ni'n glynu ato. Mi fyddai'r Sioe yn blatfform i drafod. Mae'n drafodaeth sydd angen digwydd."

Cymunedau gwledig

Mae Hefin Jones yn rhybuddio y gallai diffyg cytundeb gydag Ewrop a chytundeb masnach rydd gyda'r UDA beryglu dyfodol cymunedau gwledig:

"Ni'n mynd i weld rhagor o ddiboblogi yng nghefn gwlad. Ni'n mynd i weld unedau amaethyddol mwy o faint. Dwi yn pryderu y gallai arwain at nifer o ffermwyr a ffermydd teuluol yn rhoi'r ffidil yn y to."