Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-0 Hull
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle'r Bencampwriaeth wrth iddyn nhw drechu Hull yng ngêm ola'r tymor yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen wrth i Junior Hoilett rwydo heibio i'r golwr George Long ar ôl 20 munud.
Dyblwyd eu mantais cyn hanner amser wrth i'r capten Sean Morrison sgorio yn ei ail gêm yn olynol, gyda'r amddiffynnwr yn penio cic gornel Joe Ralls i gefn y rhwyd.
Fe wnaeth y tîm cartref selio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf wrth i'r eilydd Danny Ward sgorio trydedd gôl i'r Adar Gleision.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn gorffen y tymor yn y pumed safle yn y Bencampwriaeth, ac fe fyddan nhw'n herio Fulham yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Mae'r canlyniad hefyd yn golygu bod Hull yn gorffen ar waelod Y Bencampwriaeth ac yn disgyn i Adran Un.
Fan arall yn y Bencampwriaeth nos Fercher, llwyddodd Abertawe i hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle hefyd, a hynny o drwch blewyn, gan sicrhau bod dau dîm o Gymru yn rhan o'r gemau ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020