Pryder am effaith system un ffordd ar fusnesau Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai'r system un ffordd wneud niwed i rai busnesau yn Ninbych

Mae 'na wrthwynebiad yn Ninbych i'r bwriad o greu system un ffordd dros dro yn y dref.

Bwriad y cynllun gan y cyngor sir ydy helpu busnesau i gadw pellter rhwng cwsmeriaid a helpu i atal coronafeirws.

Ond mae rhai busnesau'n anhapus.

Mae Ffion Howatson yn rhedeg caffi Ji-Binc ac yn anfodlon gyda'r awgrym o gael byrddau yr ochr arall i'r stryd.

'Amharu ar y dref'

Mae'n honni y gallai'r system un ffordd wneud niwed i rai busnesau.

"Mae'n mynd i amharu ar y dref os byddan nhw'n gwneud hynny," meddai.

"Mae 'na ambell i siop dwi'm yn meddwl fydd yn ailagor a 'dan ni ddim isio gweld mwy o hynny achos y system yma."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na ambell i siop dwi'm yn meddwl fydd yn ailagor," meddai Ffion Howatson

Mae dros fil o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun.

Fis Mai fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig arian i gynghorau gyflwyno newidiadau tymor byr i ganol trefi, a fyddai'n helpu i wneud iddynt deimlo'n ddiogel ac yn groesawgar.

Fe gyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer trefi Dinbych, Llangollen, Rhuthun a'r Rhyl.

Dydy rhai o balmentydd Dinbych ddim yn llydan iawn ac mewn holiadur diweddar, mae'r cyngor sir yn dweud fod 60% o'r rhai wnaeth ymateb wedi nodi pryderon am gadw pellter cymdeithasol.

Roedd 65% o fusnesau wedi dweud ei bod hi'n dawelach na'r arfer.

Be' ydy'r cynlluniau?

Mae'r cynllun yn cynnwys:

  • Cefnogi ymbellhau cymdeithasol yn Stryd y Dyffryn, Stryd Fawr, a Stryd y Bont drwy gyflwyno system draffig unffordd er mwyn ehangu palmentydd;

  • Adleoli marchnad Dinbych dros dro o Sgwâr y Neuadd i'r stryd fawr am ei fod yn fwy hygyrch ac yn caniatáu i stondinau ymledu ymhellach;

  • Cefnogi tafarndai, caffis a bwytai ar Stryd y Dyffryn a'r Stryd Fawr i greu mannau eistedd y tu allan;

  • Annog a chefnogi pobl i ddewis teithio llesol yng nghanol y dref drwy weithredu newidiadau i'r seilwaith sy'n gwneud teithio llesol yn haws;

  • Gosod terfyn cyflymder o 20mya ar hyd Lôn Parc, Rhiw'r Bigwn a Lon Goch, rhag ofn i'r system un ffordd arwain at gynnydd mewn traffig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ynyr Waller bod ei siop yn "brysurach rŵan na chyn y Covid"

Mae Ynyr Waller yn gweithio yn siop offer trydanol E. Jones ac yn dweud bod y siop yn brysur.

"Maen nhw'n dweud bod ni'n ddistaw, ond 'dan ni'n brysurach rŵan na chyn y Covid," meddai.

"Mae'n rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth, ond yn gyntaf dewch i'r dref a gweld sut mae pethau'n gweithio, sut mae pobl yn cael nwyddau trwy'r drysau, sut mae cwsmeriaid yn cael nwydd trwm i'r car.

"Mae hynny'n bwysig i fusnesau Dinbych."

'Ymgynghori â busnesau a thrigolion'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Ddinbych: "Mae cynlluniau wedi eu llunio ar gyfer pedair o drefi'r sir ac mae llawer o bobl wedi rhannu barn ar y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill ynglŷn â'r cynigion.

"Mae cadw pobl yn ddiogel yn flaenoriaeth ac mae'r cyngor yn credu y bydd y mesurau arfaethedig yn helpu pobl i deimlo'n ddiogel wrth ymweld â chanol ein trefi ac i annog trigolion ac ymwelwyr i dreulio fwy o amser yno.

"Mae'r cyngor ymgynghori â busnesau a thrigolion y dref ar y cynigion cyn gwneud penderfyniad."

Mi fydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener, 24 Gorffennaf.