Dyn wedi marw ar ôl syrthio o glogwyn yn y Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd Gwylwyr y GlannauFfynhonnell y llun, @MumblesRescue / Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i'r safle, a'r hofrenydd

Mae dyn wedi marw ar ôl cwympo oddi ar glogwyni ar y Gŵyr.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru bod dyn wedi "marw'n sydyn" yn Rhossili fore Sul.

Dywedodd nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus a'u bod nhw wedi cysylltu gyda'i berthynas agosaf.

Dywedodd yr RNLI bod badau achub Horton a Phorth Eynon wedi cael eu galw ychydig ar ôl 10:00 a bod y dyn wedi marw ar ôl cael ei godi o'r môr gan hofrennydd.

Arhosodd y bad achub yn yr ardal rhag ofn bod rhywun arall wedi bod gyda'r dyn, a'i fod mewn anhawster, ond ni ddaethon nhw o hyd i unrhyw un arall.

Ffynhonnell y llun, @MumblesRescue / Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth un o hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr fynychu'r digwyddiad hefyd