Dychryn teulu wedi i'w merch ddisgyn i raeadr
- Cyhoeddwyd
![Phoebe Kibbey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1129A/production/_113689207_eba4c62c-a74e-4644-9466-67f324357216.jpg)
Phoebe, yn yr ysbyty wedi'r ddamwain yn gynharach yn y mis
Mae teulu'r ferch chwech oed a ddihangodd yn ddianaf ar ôl disgyn i lawr rhaeadr dros 100 troedfedd o uchder wedi bod yn siarad am eu braw.
Cafodd Phoebe Kibbey ei thynnu o'r dŵr gyda bron dim anafiadau.
Mae ei theulu, sy'n byw ger Caer, wedi galw am fesurau diogelwch gwell yn rhaeadr Ceunant Mawr ger Llanberis.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod arwyddion rhybudd eisoes yno.
Dywedodd llysdad Phoebe, Liam Bolland a neidiodd i mewn i geisio'i hachub, fod y teulu wedi bod yn ofalus.
"Roeddwn i'n tynnu lluniau pan glywais i sgrech ofnadwy gan fy mhartner, mam Phoebe," meddai.
"Gwaeddodd fod Phoebe wedi disgyn. Neidiais i mewn fy hun, ond doeddwn i'n methu ei gweld yn y dŵr gwyn yn y pwll uchaf.
![Ceunant Mawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8FAA/production/_113687763_3-002.jpg)
Gwelodd ei theulu Phoebe yn disgyn dros ymyl rhaeadr Ceunant Mawr
"Pan es i mewn i'r dŵr fe wnaeth yr oerfel fynd â 'ngwynt, ac fe ges i fy nhynnu o dan y dŵr hefyd.
"Fe wnes i drio mor galed i gael ati, ond roeddwn i jyst yn methu."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi clywed Phoebe yn dod allan o'r dŵr yn y pwll uchaf, ond yna disgyn dros ymyl y brif raeadr.
Roedd aelodau eraill y teulu wedi ei gweld yn disgyn, ac fe wnaethon nhw weiddi ar bobl oedd wrth y pwll isaf.
Llwyddodd un dyn i'w thynnu allan, ond heblaw sioc ac ambell glais doedd hi ddim wedi'i hanafu.
"Mae hi'n ferch fach anhygoel," ychwanegodd Mr Bolland.
"Ry'n ni wedi siarad am y peth, ac mae'n cofio'r rhan fwyaf - disgyn, bod o dan y dŵr, gweld y creigiau a mynd i lawr.
"Fe wnes i gofleidio'r dyn a'i tynnodd o'r dŵr wrth i mi ddiolch iddo."
![Phoebe Kibbey](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3A28/production/_113688841_7d0af6ac-cc67-450a-a0cc-f19c23311f97.jpg)
Phoebe yn mwynhau cyn y ddamwain
Mae'r teulu wedi dychwelyd i'r rhaeadr ers y ddamwain i geisio canfod beth ddigwyddodd, ac i weld a oedden nhw wedi methu unrhyw arwyddion o rybudd.
Galwodd Mr Bolland am asesiad diogelwch o'r safle.
Dywedodd: "Mae'n ardal brysur. Pan aethon ni nôl roedd llawer o bobl yno ac roedd y tir yn llithrig a gwlyb.
"Does dim gwregysau diogelwch ger y pwll isaf. O ystyried y gwymp, rwy'n meddwl fod hynny'n ofnadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn annog y cyhoedd i gymryd gofal ar y safle yma ac i beidio mentro i'r dŵr yn Rhaeadr Afon Arddu yn Llanberis.
"Mae nifer o arwyddion rhybudd mewn lle yn annog y cyhoedd i beidio nofio na mynd i mewn i'r dŵr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020