Cydweithio ar ddeddfwriaeth ôl-Brexit yn 'ddiffygiol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth yn dilyn Brexit "yn peri risg uchel ac yn ddiffygiol", yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn poeni y gallai'r Mesur Masnach sydd ar ei ffordd drwy Senedd San Steffan danseilio datganoli.
Dywedodd y Cadeirydd Mick Antoniw bod y pwyllgor "wedi dychryn" hefyd o glywed nad oedd gweinidog Llywodraeth Cymru dros Fasnach Ryngwladol wedi codi ei phryderon gyda Llywodraeth y DU.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi "gweithio'n galed i sicrhau consesiynau gan Lywodraeth y DU ar y mesur".
Mae Mesur Masnach Llywodraeth y DU yn cynnig fframwaith ar gyfer polisi masnach y DU yn dilyn Brexit, ond gan ei fod yn effeithio ar feysydd sydd wedi datganoli bydd cyfle i Senedd Cymru roi ei sêl bendith i'r ddeddfwriaeth.
Dywedodd Mr Antoniw bod y mesur fel ag y mae yn rhoi'r pŵer i weinidogion yn Llundain "anwybyddu datganoli", a galwodd ar Lywodraeth Cymru i sefyll yn gadarn a mynnu newidiadau i'r ddeddfwriaeth ddrafft.
'Peri risg uchel'
Dydy'r pwyllgor "ddim yn fodlon" bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i dderbyn addewidion gan Lywodraeth y DU heb sail gyfreithiol.
"Ar ôl i'r mesur gael ei ddeddfu, bydd ganddo oblygiadau sylweddol a hirdymor posibl i sectorau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu," meddai adroddiad y pwyllgor.
"Rydym yn cydnabod bod y broses o negodi cytundebau masnach ledled y DU yn parhau i fod yn bŵer a gedwir gan Lywodraeth y DU.
"Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu'r cytundebau masnach hynny mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ac nid ydym yn credu fod cytundebau rhynglywodraethol nad ydynt yn rhwymo yn ffordd effeithiol o ddiogelu buddiannau Cymru.
"Yn ein barn ni, mae'r dull hwn yn peri risg uchel ac felly, yn y pen draw, yn ddiffygiol."
Dywedodd y pwyllgor hefyd ei fod wedi ysgrifennu at weinidog Llywodraeth Cymru dros Fasnach Ryngwladol, Eluned Morgan i ofyn beth oedd hi wedi ei wneud am bryderon oedd eisoes wedi eu codi am sgôp rhai pwerau o fewn y mesur.
Roedd y pwyllgor "wedi dychryn" o glywed nad oedd hi "wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU", ac ychwanegodd y byddai wedi disgwyl bod y gweinidog wedi cael "sgyrsiau cadarn".
Yn bellach yn ei hymateb i'r pwyllgor, dywedodd Ms Morgan ei bod hi wedi cael "addewidion" gan weinidogion yn San Steffan na fyddai Llywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru ac y byddai'r addewidion yn cael eu hailadrodd ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
'Ymrwymiadau ddim yn rhwymo'
Fodd bynnag dywedodd y pwyllgor: "Rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro ei bod yn bwysig ystyried yr hyn y gellir ei wneud o dan ddarpariaeth ddeddfwriaethol benodol, ac nid yr hyn y mae llywodraeth ar y pryd yn dweud y bydd yn ei wneud â phŵer.
"Nid yw gallu Llywodraeth y DU i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoli allweddol Cymru ar ei phen ei hun drwy is-ddeddfwriaeth yn rhywbeth y dylid ei negodi gan ddefnyddio ymrwymiadau nad ydynt yn rhwymo wrth flwch dogfennau Senedd y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cytuno y gallai polisi'r DU fod yn "berygl gwirioneddol i ddatganoli", ond eu bod wedi "gweithio'n galed i sicrhau consesiynau gan Lywodraeth y DU ar y mesur".
"Ry'n ni'n parhau i gyflwyno ein hachos ar unrhyw fater sy'n bryder, a byddwn yn dod yn ein blaenau gyda'n barn derfynol ar os dylai'r Senedd roi caniatâd deddfwriaethol unwaith y bydd y mesur yn wynebu ei rwystrau olaf," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019