Carchar am oes am lofruddio cymydog mewn ffrae dros gi

  • Cyhoeddwyd
Raymond BurrellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Raymond Burrell sefyll prawf newydd wedi i Matthew Sheehan farw ddwy flynedd wedi'r ymosodiad arno

Mae dyn 43 oed o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio cymydog oedd wedi cwyno am fod ei gi yn cyfarth.

Cafodd Raymond Burrell ei ddedfrydu ddydd Iau am achosi marwolaeth Matthew Sheehan wedi ymosodiad didrugaredd arno tu allan i'w gartref yn Adamsdown, Caerdydd ym mis Medi 2015.

Roedd Burrell eisoes wedi cael dedfryd o garchar am oes yn 2016 wedi i lys ei gael yn euog yn y lle cyntaf o ymosodiad corfforol difrifol - flwyddyn cyn i Mr Sheehan farw o'i anafiadau mewn ysbyty.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau y bydd rhaid i Burrell dreulio o leiaf 28 o flynyddoedd dan glo, namyn y 1,579 diwrnod y mae eisoes wedi'u treulio yn y carchar.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Matthew Sheehan wedi dwy flynedd mewn uned gofal dwys gydag anafiadau "catastroffig"

Darllenwyd ddatganiad ar ran mam Mr Sheehan yn y llys.

Dywedodd Leanne Sheehan fod "ein byd wedi troi ben i waered - wedi ei ddryllio" ar ddiwrnod yr ymosodiad.

Ychwanegodd "Roedd hi bron yn amhosib i'w adnabod o ac roedd yn edrych fel bod rhywun wedi ei ddefnyddio fel punchbag.

"Bydd y diwrnod yma wedi ei serio ar ein meddyliau am byth."

Cyn dedfrydu Burrell, clywodd y llys fod ganddo hanes o droseddau treisgar, yn cynnwys cyfnod o garchar am ddynladdiad yn 2003 am saethu merch 17 oed.

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Griffiths fod yr ymosodiad yn un "neilltuol o ffyrnig a chreulon".

Ychwanegodd fod Mr Sheehan wedi dioddef "marwolaeth ofnadwy ac araf".

"Roedd ei ddioddefaint yn agos at y pegwn eithaf mewn achosion llofruddiaeth."

Clywodd y llys fod Mr Sheehan, oedd yn defnyddio ffon i gerdded oherwydd y cyflwr atacsia serebelaidd, wedi cwyno sawl gwaith wrth Burrell fod sŵn ei gi'n ei gadw'n effro yn y nos, ac wedi trafod y broblem gyda phobl eraill.

Dywedodd un ffrind, yn dilyn y cwynion, fod Burrell wedi rhybuddio Mr Sheehan, "os fyddi di'n siarad efo fi neu fy nghi fel yna eto, mi ai yn ôl i'r carchar o dy achos di".