Cynghorydd yn Sir Benfro yn gwadu rhannu deunydd sarhaus

  • Cyhoeddwyd
Paul Dowson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Dowson yn mynnu bod y deunydd wedi cael ei "greu" gan ei elynion gwleidyddol

Mae cynghorydd dadleuol o Sir Benfro wedi gwadu honiadau ei fod wedi rhannu deunydd hiliol, yn sarhaus i fenywod a phobl o wahanol grefyddau.

Mae undeb Unsain wedi honni bod lle i gredu bod y deunydd wedi dod o gyfri' cyfryngau cymdeithasol Paul Dowson, ond mae e'n mynnu bod y deunydd wedi cael ei "greu" gan ei elynion gwleidyddol.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd y Cynghorydd Dowson: "Rhowch 24 awr, ac mi allwn i greu yr un delweddau yn eich enw chi, er enghraifft."

Fe ddywedodd yn "bendant" nad oedd wedi rhannu'r deunydd ac fe wadodd ei fod yn hiliol.

Cafodd y Cynghorydd Dowson ei ethol gyda mwyafrif o bedair pleidlais i gynrychioli Canol Doc Penfro yn 2017.

'Hynod sarhaus'

Yn gynharach y mis hwn fe alwodd undeb Unsain am ymchwiliad gan yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyngor Sir Penfro ar ôl anfon ffeil o dystiolaeth sydd, yn ôl yr undeb, "yn ymddangos fel petasen nhw yn dod o gyfrif cyfryngau cymdeithasol" y Cynghorydd Dowson.

Mae Unsain wedi disgrifio'r deunydd fel "hynod sarhaus" ac "nid yn rhai fyddai rhywun yn eu disgwyl" gan arweinydd cymunedol.

Mae'r undeb wedi galw ar y cyngor a'r ombwdsman i gynnal ymchwiliad ffurfiol.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr ombwdsman ei fod yn "cynnal ymchwiliad i gwyn yn erbyn y Cynghorydd Paul Dowson o Gyngor Sir Penfro a honiadau ei fod o bosib wedi torri cod ymddygiad yr awdurdod".

Doedd yr ombwdsman ddim yn barod i roi manylion pellach ynglŷn â'r ymchwiliad.

'Rhywun â fendeta yn fy erbyn'

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, fe honnodd y Cynghorydd Dowson ei bod hi'n glir bod y "delweddau wedi cael eu creu gan rywun oedd â fendeta yn fy erbyn i".

Pan ofynnwyd iddo pam roedd wedi diffodd ei gyfrif Facebook yn dilyn yr honiadau, dywedodd ei fod wedi gwneud hynny ar sail "cyngor yr heddlu" ac am ei fod yn cael negeseuon bod rhywun yn mynd i mewn i'w gyfrif Facebook o leoliadau eraill.

"Fe wnes i ddiffodd y cyfrif am ei bod hi'n bosib creu un arall," meddai.

Fe wadodd fod ei weithredoedd wedi effeithio ar yr ymchwiliad, ac fe ddywedodd nad oedd yn adnabod rhai o'i ffrindiau ar Facebook a'i bod yn bosib eu bod nhw fel "ysbiwyr".

Mae'r Cynghorydd Dowson wedi gwneud cwyn i Heddlu Dyfed-Powys, yn honni fod pobl yn ei aflonyddu a'i fod wedi bod yn destun cyfathrebu maleisus.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gan bawb ryddid barn ond mae yna ganlyniadau i hynny," meddai Manuela Hughes

Dywedodd Manuela Hughes, cadeirydd cangen Unsain yn Sir Benfro, bod yr undeb wedi cael gwybod am y wybodaeth sarhaus ar y cyfrif gan aelodau o Unsain a'r cyhoedd.

"Roedden nhw yn hynod sarhaus. Roedden nhw yn targedu menywod, aelodau o'r gymuned LGBTQ+, pobl o gredoau crefyddol gwahanol ac aelodau o'r gymuned ddu," meddai.

"Ry'n ni'n disgwyl arweinwyr i arwain drwy esiampl, i gynrychioli amrywiaeth ac i beidio creu rhaniadau neu i sarhau. Mae gan bawb ryddid barn ond mae yna ganlyniadau i hynny.

"Os ydych chi yn gynghorydd, yna mae yna gôd ymddygiad i'w ddilyn. Mae hi'n glir beth sydd yn dderbyniol a beth sydd ddim.

"Diolch i aelodau Unsain, ac aelodau o'r cyhoedd, ry'n ni wedi llwyddo i gasglu nifer fawr o ddelweddau o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi cael eu hanfon at yr ombwdsman a Chyngor Sir Penfro, ac ry'n ni wedi galw am ymchwiliad llawn a thrwyadl i ymddygiad y Cynghorydd Dowson.

"Mae yna nifer fawr o enghreifftiau."

'Herio ymddygiad atgas'

Roedd Ms Hughes yn cyfaddef ei bod hi'n anarferol iawn i undeb llafur gymryd camau tebyg yn erbyn cynghorydd etholedig.

"Rhai o'n hegwyddorion craidd fel undeb yw ymladd am gydraddoldeb a gwrthwynebu unrhyw fath o wahaniaethu," meddai.

"Ein cyfrifoldeb ni yw herio ymddygiad atgas."

Er bod nifer o'r delweddau yn ymddangos fel petasen nhw yn dyddio 'nôl i'r cyfnod cyn iddo fod yn gynghorydd, mae'r Cynghorydd Dowson yn amau eu bod nhw wedi cael "eu creu yn ddiweddar".

Dywedodd ei fod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Unsain a'r Blaid Lafur am "gyhoeddi celwydd amdana i ac enllib yn fy erbyn i".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dowson nad oedd am gefnogi protestiadau "treisgar" Black Lives Matter

Mae'r Cynghorydd Dowson yn gymeriad dadleuol.

Roedd yn feirniadol o gynllun ym mis Chwefror i oleuo Neuadd y Sir yn borffor mewn teyrnged i George Floyd ac fel arwydd o gefnogaeth i brotestiadau Black Lives Matter.

Roedd yn dweud nad oedd yn barod i gefnogi'r protestiadau "treisgar" oedd wedi digwydd o gwmpas y byd.

"Mae bob bywyd yn bwysig, bywydau du, bywydau gwyn... mae pobl yn gweld hynny fel rhywbeth hiliol am nad ydw i yn barod i gefnogi eu hachos," meddai.

'Defnyddio hiliaeth fel arf'

Gwadodd bod defnyddio'r ymadrodd "mae bywydau gwyn o bwys" yn annoeth.

"Mae Unsain wedi cymryd y peth mas o'i gyd-destun," meddai.

"Maen nhw yn bwysig [bywydau gwyn], a bywydau du, a phob bywyd.

"'Dwi ddim yn gweld unrhyw arwyddocâd i'r ymadrodd yna. Mae pobl yn creu arwyddocâd sydd yn cyd-fynd â'u bwriad. Maen nhw yn defnyddio hiliaeth fel arf."

'Herio unrhyw wahaniaethu'

Yn ôl Cyngor Sir Penfro mater i'r ombwdsman, yn y lle cyntaf, yw delio gyda chwynion am ymddygiad cynghorwyr unigol.

Wrth ymateb i gyfweliad y Cynghorydd Dowson dywedodd Unsain eu bod yn "glynu at yr alwad am ymchwiliad ar sail y ffaith bod y deunydd yma yn sarhaus, ac mae hi'n ymddangos bod y wybodaeth yn dod o gyfrif Facebook y Cynghorydd Dowson".

"Fe fyddwn ni wastad yn barod i herio hiliaeth neu unrhyw wahaniaethu yn eu hamrywiol ffurf," meddai llefarydd.