Cyn chwaraewr Cymru a Chaerdydd, Keith Pontin wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Keith PontinFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r cyn chwaraewr pêl-droed i Gymru a Chaerdydd, Keith Pontin wedi marw yn 64 oed.

Fe chwaraeodd Pontin, o Bont-y-clun 193 gwaith i Gaerdydd rhwng 1976 a 1983.

Cafodd ddau gap i Gymru gan ddod ar y cae pan enillodd Cymru o 4 -1 yn erbyn Lloegr yn 1980.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd clwb pêl droed Caerdydd eu bod yn "drist iawn" i glywed am ei farwolaeth.

Roedd Pontin wedi cael diagnosis o ddementia yn 2016 yn 59 oed.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC ddwy flynedd wedyn dywedodd ei deulu eu bod yn credu fod y cyflwr wedi ei achosi am iddo dreulio blynyddoedd yn penio pêl fel pêl droediwr.