Ydy hanes mudo'r Cymry i Batagonia yn anghyflawn?
- Cyhoeddwyd
"Dyw hanes taith y Cymry i Batagonia ddim yn cael ei adrodd yn llawn," yn ôl awdur traethawd sydd wedi cipio un o brif wobrau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
"Ar lawer ystyr gwladychu tiroedd brodorol trwy ormes wnaeth y Cymry," medd Llinos Mai Anwyl Evans, sy'n wreiddiol o Lanallgo ym Môn.
Mae hi hefyd yn dadlau bod tuedd i "ramantu" yr hyn ddigwyddodd mewn teithiau i'r ardal.
Ond gwrthod hynny mae un gafodd ei fagu yn Nhrelew, gan ddweud bod y Cymry cyntaf yno wedi "pwysleisio'r angen i gyd-fyw a chydweithio gyda'r brodorion".
'Rhamantu'r cyfan'
Mae Ms Evans yn ysgrifennu bod "cyrraedd yno ac enwi lleoedd yn enwau fel Trelew ac enwau Cymreig eraill ynghyd â chyflwyno Cristnogaeth i'r brodorion" yn enghraifft o ormes.
Mae ei thraethawd, sydd wedi ennill Gwobr Goffa John Davies, yn honni nad yw teithiau twristaidd i Batagonia, yn aml, yn rhoi'r darlun cywir chwaith.
Dywed bod nifer yn cael eu trefnu i ddiwallu diddordeb y Cymry.
"Mae yna duedd i ramantu'r cyfan, a dyw'r daith ddim mwy na phererindod i glywed iaith y nefoedd yn cael ei siarad ag acen ddieithr, ac i brofi gweld dodrefn Cymreig mewn cartrefi a wahanwyd gan gefnfor, ac i ymweld â thai te Cymreig."
Ond gwrthod y sylwadau mae Elvey MacDonald, un a gafodd ei fagu yn Nhrelew ac sydd wedi trefnu teithiau cyson i Batagonia.
Dywedodd: "Dwn i ddim beth yw gwybodaeth trefnwyr teithiau i'r Wladfa y dyddiau hyn. Fi oedd y cyntaf i drefnu teithiau rheolaidd yno.
"Yn ystod yr 20 mlynedd y bum wrthi, rhoddais sylw manwl i hanes brodorion Chubut, yn ogystal ag i hanes y dalaith a'r wlad, gan dywys y teithwyr i'r mannau perthnasol - ar lefel genedlaethol, taleithiol a lleol.
"Er fod natur y daith yn mynnu lle canolog i hanes sefydlu'r Wladfa a'i datblygiad, roedd i'r brodorion le amlwg yn yr hanes a adroddwn.
"Gallaf gyfrif ag un llaw sawl gwaith yr arweiniais grŵp i dai te... roedd llawer o'r teithwyr yn dewis mynd yno ar eu liwt eu hunain ac yn mwynhau.
"Annheg yw i'r awdur feirniadu'r tai te neu'r tywyswyr sy'n tywys teithwyr iddynt."
'Hanes mewnfudo yn bwysig'
Dywed Ms Evans, a ysgrifennodd ei thraethawd hir fel rhan o'i chwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, nad yw hi'n credu bod digon o sylw yn gyffredinol i hanes mewnfudwyr a'u dylanwad ar y gymdeithas.
"Does dim modd gwerthfawrogi ein 'stori' fel gwlad, oni chaiff hanes Tiger Bay a'i helfen wladfaol ei hadrodd gyda'r un balchder a hyder â stori Siartwyr Merthyr, gwirionedd y Wladfa, terfysg Merched Beca neu chwedlau'r Mabinogi," meddai.
Dywed ymhellach bod yr hanes am deithwyr y Mimosa yn glanio yn Nyffryn Chubut yn cael ei weld fel pwynt allweddol yng nghenedlaetholdeb Cymreig.
"Dyw'r brodorion gwreiddiol yn cael fawr o sylw, ac yn aml maent yn cael eu gweld fel ryw greaduriaid anwaraidd.
"Does dim modd gwerthfawrogi yr hanes yn iawn os nad oes yna gyfeiriad at y trefedigaethu - ond gan bod hynny yn ongl anodd i drefnwyr teithiau ei hyrwyddo, mae'n cael ei ddiddymu."
'Neb yno pan laniodd y Cymry'
Mae Mr MacDonald yn cydnabod bod llawer o enghreifftiau o goloneiddio yn yr Ariannin, a bod hynny wedi digwydd trwy ormes a thrais gwaedlyd yn aml, ond nid dyna hanes Chubut.
"Roedd Michael D. Jones a'i Gymdeithas Wladychfaol wedi pwysleisio'r angen i gyd-fyw a chydweithio gyda'r brodorion. Fel y digwyddodd pethau, doedd na'r un brodor ar gyfyl y lle pan laniodd y Mimosa," meddai.
"Ar 19 Ebrill 1866 y cyrhaeddodd y pâr cyntaf o frodorion - gŵr a gwraig canol oed hŷn - i Ddyffryn Camwy ac wedi'r gosteg a ddilynodd y cynnwrf a achoswyd gan eu hymddangosiad, dechreuodd y cyfathrebu cyfeillgar rhyngddynt.
"Gellid ymhelaethu llawer am y berthynas gadarnhaol fu rhwng y Cymry a'r Mapuches, y Pampas a'r Tehuelches. Roedd dau o'r llwythi wedi dod i gytundeb ariannol gyda llywodraeth Buenos Aires er mwyn caniatáu sefydlu gwladfa Gymreig ar eu tiroedd."
'Parchu'r enwau gwreiddiol'
O ran enwi ardaloedd dywedodd Mr MacDonald: "Ymhle bynnag roedd yna enw ar gwm, dyffryn neu fynydd, parchwyd yr enwau hynny.
"Gaiman - carreg hogi yn iaith y Tehuelche - yw enw tref Gymreiciaf Dyffryn Camwy."
Ychwanegodd: "Enwau Cymraeg ar strydoedd Trelew? Ni fu'r un brodor yn byw o fewn cannoedd o filltiroedd i'r dref erioed.
"Enwyd yr afon Camwy gan Lewis Jones ond defnyddiwyd yr enw brodorol Chubut ym mhob cyswllt gyda'r llywodraeth.
"Breuddwyd Michael D. Jones oedd cael yr holl o ymfudwyr Cymru i fynd gyda'i gilydd i'r un man, rhag iddynt wasgaru.
"Does dim angen chwilio llawer cyn dod ar draws straeon niferus am ddioddefaint miloedd o Gymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwn am ddioddefaint rhai o fy hynafiaid a chydymdeimlaf â'u penderfyniad."
Dywedodd Aled Rees o gwmni Teithiau Tango yn Aberystwyth fod teithiau i Batagonia, cyn coronafeirws, yn boblogaidd iawn.
"O fy nealltwriaeth i roedd y Cymry yn dod ymlaen gyda'r brodorion ac fe wnaethon nhw ffrwythloni tir diffaith iawn ar ôl mynd yno.
"Roedd y Cymry wrth gwrs yn dianc rhag gormes llywodraeth Prydain - mae 'na enwau Cymreig ond rhaid cofio nad oedd fawr yno cyn i'r Cymry gyrraedd.
"Yn sicr, dyw e ddim yn fwriad i anwybyddu yr hanes brodorol ac yn naturiol mae 'na rywfaint o ramant yn perthyn i'r lle," meddai.
Dyma'r pumed tro i'r coleg ddyfarnu Gwobr Goffa John Davies. Mae'r wobr yn cael ei rhoi am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.
Dywed Ms Evans, sydd bellach yn astudio ar gyfer gradd meistr yng Nghaerdydd, ei bod yn falch o dderbyn y wobr a bod y gwladychu ym Mhatagonia yn faes sy'n haeddu sylw ehangach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2015
- Cyhoeddwyd27 Mai 2015