Llywodraeth Cymru: Angen parhau i gadw cyffuriau wrth gefn
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu cyffuriau wrth gefn rhag ofn na fydd cytundeb masnach rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
Fe gadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Y Farwnes Eluned Morgan AS, fod y llywodraeth yn cymryd y "sefyllfa o ddifri'", gan fod pryderon y gallai'r DU adael yr UE heb gytundeb.
Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth y DU ofyn wrth wneuthurwyr moddion gadw chwe wythnos o stoc wrth gefn, rhag ofn y bydd diwedd y cyfnod trosglwyddo yn creu problemau ym mis Rhagfyr.
Roedd Y Farwnes Morgan yn cynnal datganiad wythnosol y llywodraeth ar ddatblygiadau pandemig y coronafeirws.
Dywedodd: "Mae cadw cyffuriau wrth gefn yn rhywbeth yr ydym wedi ystyried o ddifri', ac yn rhywbeth y gwnaethom ni y tro diwethaf i ni gredu y bydden ni'n gadael heb gytundeb.
"Mae'r dyddiad yn Rhagfyr yn agosáu, felly mae'r gwaith yna'n parhau yng Nghymru."
Aeth ymlaen i sôn am y camau diweddaraf yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Mynegodd bryder am niferoedd pobl yn ymgynnull mewn mannau cyhoeddus.
Dywedodd: "Efallai bod angen edrych ar y neges, yn enwedig i bobl ifanc, am y peryglon o ymgynnull hyd yn oed mewn mannau cyhoeddus.
"Os fyddan nhw'n torri'r rheolau, yna cyfrifoldeb yr heddlu yw gweithredu'r gyfraith."
Dywedodd Eluned Morgan hefyd bod newidiadau wedi bod i bwerau er mwyn gallu cau busnesau unigol os fyddai angen gwneud hynny - pe byddai bygythiad i iechyd pobl.
"Ond wrth i ni weld nifer yr achosion yn codi mewn rhannau eraill o Ewrop, gan gynnwys Lloegr, mae ein gallu i weithredu'n dibynnu ar bob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau: busnesau a chwsmeriaid.
"Os ydym am barhau ar agor, rhaid i fusnesau gadw mesurau lliniaru mewn lle. Rhaid i chi gadw pellter cymdeithasol ar eich eiddo, a rhaid casglu manylion eich cwsmeriaid os ydych yn fusnes lletygarwch.
"Mae'r mwyafrif ohonom yn dilyn y gyfraith i atal ymlediad y feirws, ond hoffwn orffen drwy ddweud hyn wrth y lleiafrif bach - pobl a busnesau - sydd ddim.
"Fe fyddwn ni'n gweithredu i orfodi'r rheolau yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020