Teyrnged tad i ferch o Hwlffordd wedi ei marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Lola JamesFfynhonnell y llun, Dyfed-Powys Police

Mae dyn wedi rhoi teyrnged i'w ferch ddwy oed fu farw ar ôl digwyddiad yn Hwlffordd ym mis Gorffennaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Hwlffordd ar fore Gwener, 17 Gorffennaf, a bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf.

Dywedodd ei thad, Dan Thomas, y bydd yn colli ei "llygaid disglair a'i gwên hardd hyd ddiwedd amser".

Dywedodd yr heddlu bod dau berson wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac esgeulustod wedi'r digwyddiad, a bod yr ymchwiliad yn parhau.

'Gadael twll yng nghalonnau pawb'

Mewn datganiad a ryddhawyd gan yr heddlu, dywedodd Mr Thomas: "O'r tro cyntaf i mi gwrdd â fy merch hardd, Lola Patricia James, roedd fy nghalon wedi'i llenwi â'r fath lawenydd, hapusrwydd nad oeddwn i erioed wedi'i deimlo o'r blaen, cariad diamod a'r teimlad fod angen ei hamddiffyn hi bob amser am weddill ei hoes."

Soniodd am "yr holl bethau na chafodd gyfle erioed i'w dysgu, eu gweld na'u dweud, a'r holl bethau na fyddaf byth yn cael cyfle i'w dysgu - ysgrifennu ei henw, reidio beic neu yrru car".

Dywedodd fod ei ferch wedi "gadael twll yng nghalonnau pawb y gwnaeth eu cyfarfod".

Diolchodd Mr Thomas hefyd i "bob meddyg, nyrs a chynorthwyydd gofal iechyd a geisiodd helpu Lola," gan ychwanegu bod y staff yn Ysbyty Plant Noah's Ark yng Nghaerdydd wedi bod yn "wirioneddol anhygoel".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod teulu Lola yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol a bod yr ymchwiliad i'w marwolaeth yn parhau.