Cyhuddo Reach Plc o gefnu ar newyddion Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion papurau newydd yng Nghymru wedi cael eu cyhuddo o roi llai o sylw i newyddion lleol wrth iddyn nhw ymddangos o flaen pwyllgor diwylliant y Senedd.
Mae cwmni Reach Plc, sy'n berchen ar bapurau fel y Western Mail a'r Daily Post, a gwefan WalesOnline, yn bwriadu torri tua 20 o staff fel rhan o ailstrwythuro.
Dywedodd y cwmni bod y pandemig wedi cyflymu'r angen i newid y busnes.
Mae undeb newyddiaduraeth yr NUJ wedi rhybuddio y bydd yr ailstrwythuro yn golygu llai o ddeunydd Cymreig.
'Hollol amherthnasol'
Reach sydd hefyd yn gyfrifol am bapurau'r South Wales Echo, South Wales Evening Post, papurau wythnosol fel y Gwent Gazette a gwefan y Daily Post - North Wales Live.
Mae dau o uwch reolwyr Reach wedi bod yn rhoi tystiolaeth ddydd Mercher i ymchwiliad y pwyllgor diwylliant i effaith coronafeirws ar newyddiaduraeth a chyfryngau lleol.
Bu Alan Edmunds, cyn-olygydd y Western Mail sydd bellach yn uwch reolwr gyda Reach, a Paul Rowland, prif olygydd WalesOnline, yn ymddangos trwy gyswllt fideo.
Mae hyd at 90 o staff y cwmni yng Nghymru wedi cael gwybod bod eu swyddi nhw o bosib yn un o'r 20 fydd yn cael eu colli, ond fe wnaeth y rheolwyr amddiffyn yr ailstrwythuro.
Ond fe wnaeth yr AS Llafur, Alun Davies feirniadu'r ffordd mae papurau wythnosol y Cymoedd wedi cael eu rheoli.
"Ry'ch chi wedi lleihau'r teitlau Celtaidd dros y degawd diwethaf - pan oeddwn i'n sefyll am etholiad ym Mlaenau Gwent fe fyddwn i'n gorfod ciwio er mwyn prynu'r Gwent Gazette," meddai.
"Ond rwy'n credu 'mod i wedi ei brynu ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf - mae'n hollol amherthnasol i mi, ac mae'n amherthnasol oherwydd y methiannau o ran rheoli'r teitl hwnnw."
Dywedodd Mr Rowland bod patrymau darllen eu cynulleidfa wedi eu gorfodi i newid eu busnes papurau newydd.
"Yr hyn ry'n ni wedi'i wneud ydy penderfyniadau anodd ar deitlau i gyd-fynd â'u gallu i gynhyrchu refeniw," meddai.
'Neb arall yn rhoi sylw i Gymru'
Ychwanegodd bod y feirniadaeth o WalesOnline yn tynnu sylw oddi ar y brif broblem, sef diffyg darparwyr newyddion sy'n rhoi sylw i Gymru.
"Mae lot o'r drafodaeth am wendid y cyfryngau yng Nghymru yn aml yn troi at feirniadaeth o WalesOnline, yn hytrach na'r gwir bwnc - sef diffyg unrhyw gyfryngau eraill sydd eisiau rhoi sylw i Gymru fel gwlad, fel ry'n ni'n ei wneud," meddai.
Dywedodd Mr Edmunds fod y cwmni wedi gorfod ymateb wrth i arferion darllen symud o bapurau newydd i wefannau, ond eu bod yn parhau'n gyndyn i gau'r papurau hynny.
"Dyw'r teitlau yma ddim wedi cau, ond yr hyn ry'n ni wedi'i wneud yw eu rheoli fel ein bod yn gallu parhau i'w printio, a gweithio'n galed iawn i ddatblygu llwyfannau digidol i'r cymunedau hynny."
Dywedodd yr NUJ wrth y pwyllgor yn ddiweddarach y bydd yr ailstrwythuro yn golygu llai o sylw i Gymru, ac y bydd mwy o ddeunydd o Loegr y cael ei ddefnyddio i lenwi papurau a gwefannau yng Nghymru.
"Bydd llai o ohebwyr yng Nghymru, ac yn lle'r deunydd hwnnw bydd erthyglau sy'n cael eu darparu gan yr hyn mae'r cwmni'n alw'n 'uned rhannu deunydd'," meddai Martin Shipton, prif ohebydd y Western Mail a llefarydd yr NUJ ar ran gweithwyr Reach yn ne Cymru.
"Mae hwn wedi'i leoli yn Lloegr ac maen nhw'n cynhyrchu straeon generig."
Fe wnaeth uwch reolwyr Reach wfftio'r pryderon y bydd gan Loegr fwy o gyfrifoldeb dros wasanaethau yng Nghymru yn sgil y newidiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020