Georgia Davies yn gweld ochr bositif gohirio'r Gemau

  • Cyhoeddwyd
Georgia DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r nofwraig Georgia Davies yn dweud bod gohirio'r Gemau Olympaidd eleni yn rhoi rhagor o amser iddi baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cafodd Gemau Tokyo 2020, oedd i fod i ddechrau ddiwedd mis Gorffennaf, eu gohirio oherwydd pandemig coronafeirws.

Ond mae Davies wedi dod dros y siom ac yn gobeithio defnyddio'r amser i baratoi ar gyfer beth fyddai'r trydydd gwaith iddi gystadlu yn y gemau.

"Ro'n i'n siomedig i ddechrau achos ro'n i'n ymarfer mor dda ac yn teimlo ro'n i mor ffit a chryf," meddai Davies.

"Ro'n i'n hyderus i weld beth byddai'n gallu gwneud.

"Ond mae blwyddyn arall nawr a mwy o amser i baratoi a mwy o amser i weld beth fyddai'n gallu gwneud y flwyddyn nesaf os bydd y gemau yn gallu mynd yn eu blaen.

"Sai' eisiau dweud beth ydi targedau amser fi ond dwi'n cael amserau yn fy mhen dwi'n anelu at.

"Jyst eisiau gweld be dwi'n gallu gwneud achos hyd at hyn dwi wedi bod yn gwella pob blwyddyn jyst tamed bach.

"Gobeithio byddai'n gallu gwneud y tîm."

'Bod yn bositif'

Enillodd Davies fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014 gan ychwanegu dwy fedal efydd bedair blynedd yn ddiweddarach.

A hithau yn ymarfer yn Nhwrci bu'n rhaid iddi ddychwelyd yn ôl i'r DU ym mis Mawrth oherwydd yr argyfwng.

Disgrifia Davies y cyfnod clo fel adeg od ac ni fu'n bosib iddi nofio am gyfnod o 12 wythnos oherwydd y rheoliadau a osodwyd.

"O ni jest yn ceisio bod yn bositif gymaint ag yr oeddwn y gallu," meddai mewn cyfweliad gyda Chwaraeon BBC Cymru.

"Roedd pawb yn gorfod stopio rhywbeth maen nhw fel arfer yn gwneud ac yn caru gwneud gyda lot o bethau mwy pwysig yn mynd ymlaen.

"Er ro'n i'n siomedig bod fi'n methu nofio, a'r Gemau wedi cael eu gohirio ro'n i'n ceisio bod yn bositif a mwynhau cael amser gartref.

"Rwyf wastad yn teithio er mwyn ymarfer a cystadlu. Roeddwn yn ceisio ffocysu ar y pethau ro'n i'n gallu rheoli yn lle stressio allan am bethau dwi'n methu."