'Diffyg pellter cymdeithasol ar ddyddiau marchnad'

  • Cyhoeddwyd
Machynlleth ar ddiwrnod marchnad

Mae tensiynau wedi codi ym Machynlleth, wrth i fusnesau lleol gwyno am ddiffyg pellter cymdeithasol yn y dre' ar ddyddiau marchnad.

Ers i'r cyfyngiad pum milltir gael ei godi, mae'r ardal wedi prysuro ac mae pryder ynglŷn ag effaith hynny ar iechyd pobl yr ardal.

Yn lleol, mae "sioc" ac "ofn" ynglŷn â phrysurdeb y dref ar ddydd Mercher.

Mae un perchennog busnes wedi disgrifio'r mis diwethaf o fasnachu fel "hunllef llwyr".

Yn ôl Cyngor Sir Powys, nid cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gweithredu rheolau ymbellhau'n gymdeithasol.

Cau'r siop

Mae'r perchennog busnes lleol, Aaron Cottam wedi penderfynu cau Mid Wales Furniture and Interiors ar ddyddiau Mercher "am y tro cyntaf mewn 33 mlynedd o fasnachu".

"Ro'n i'n llwyr ddisgwyl system unffordd," meddai, "stondinau ond yn rhannau lletaf y stryd a dim stondinau tu allan i'r caffis fel eu bod yn gallu rhoi byrddau tu allan fel sy'n digwydd ar ddyddiau eraill yr wythnos.

"Hefyd, efallai, defnyddio un neu ddau o safleoedd eraill fel bod y stondinau wedi'u gwasgaru mwy ac ymbellhau cymdeithasol yn haws i'w weithredu.

"Chafodd ddim o'r pethau hyn ei wneud ac wrth i'r wythnosau fynd heibio ro'n i'n fwyfwy dig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gorfodi pobl i ddilyn y rheolau'n gallu bod yn gur pen i staff busnesau, medd William Lloyd Williams

Yn gigydd yn y dref, mae William Lloyd Williams yn disgrifio'r mis diwethaf fel "hunllef llwyr".

"Mae rhai pobl yn benstiff, ynde, pan 'dech chi'n d'eud wrthyn nhw 'scuse me, can you go out please, there's only two allowed in 'yr ateb ges i oedd 'I don't take kindly to being told what to do!'

"Wel, er lles nhw 'da ni'n neud o.

"Be 'dyn nhw ddim yn gweld yw'r e-byst dwi'n cael gan Gyngor Powys yn gofyn a ydw i'n edrych ar ôl fy staff, yn edrych ar ôl diogelwch y cyhoedd.

"Chi'n gallu mynd â ceffyl at y dŵr, ond fedrwch chi ddim neud iddo fo yfed, ynde."

Fe gafodd Machynlleth yr hawl i gynnal marchnad yn y dref nôl yn 1291, ac mae sôn am hyn yn y Siarter Brenhinol gan Edward I.

Mae Jim Honeybill yn gynghorydd tref, ac fe gafodd "sioc" a'i "ddychryn" o weld prysurdeb y farchnad.

Meddai: "Y farchnad gyntaf, ddos i lawr i siopa a ges i sioc. Oni wedi arfer gweld neb yma yn nhre' Machynlleth am dri mis cyfan. Yn sydyn iawn, mae'r byd a'i bedwar yma.

"Mae'n tueddu i greu bach o densiwn yma, dim bod neb wedi dweud dim yn bersonol yn erbyn neb arall, ond yn gyffredinol dwi'n teimlo bod pobl wedi cael sioc o weld cymaint yma.

"Ni methu neud dim byd. Yr unig beth fedrwn ni wneud yn drastig yw stopio'r farchnad yn llwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r palmentydd "yn ddigonol i gynnal pellter cymdeithasol", medd y cyngor sir

Mewn datganiad mae Cyngor Sir Powys yn dweud: "Fe gafodd adolygiad ei gynnal ym Machynlleth ac ystyriwyd bod lled y palmentydd yn ddigonol i gynnal pellter cymdeithasol.

"Cyfrifoldeb y cyngor tref, rheolwr y farchnad a pherchnogion stondinau yw sicrhau bod mesurau pellter cymdeithasol yn cael eu rhoi ar waith.

"Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â'r cyngor tref ac wedi rhoi cyngor iddyn nhw ar weithio'n ddiogel yn ystod y pandemig Covid-19."