Llifogydd yn taro Pentre wedi problemau carthffosiaeth

  • Cyhoeddwyd
Yr ardd yn cael ei bwmpio wedi'r llifogydd diweddarafFfynhonnell y llun, Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver.
Disgrifiad o’r llun,

Gardd ym Mhentref yn cael ei bwmpio wedi'r llifogydd diweddaraf dydd Mercher

Mae 'eitemau amhriodol' sy'n cael eu rhoi lawr y tŷ bach wedi cael y bai am achosi llifogydd mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf am y pedwerydd tro eleni.

Ddydd Mercher, fe orlifodd y system garffosiaeth i erddi dau gartref ym Mhentre, Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Dŵr Cymru ei bod yn bwysig nad yw pobl yn cael gwared ar eitemau i lawr y tŷ bach a bod angen eu cosbi.

Bu'n rhaid i breswylwyr adael eu cartrefi ar ôl llifogydd ym mis Mehefin, fisoedd ar ôl cael eu gorlifo ddwywaith yn ystod stormydd mis Chwefror.

Dywedodd aelod Senedd Cymru dros y Rhondda, Leanne Wood AS, ei bod yn "hynod ofidus".

Ar ei chyfrif Twitter, dywedodd Ms Wood: "Mae'n du hwnt i annerbyniol bod yn rhaid i bobl fynd trwy hyn".

Rhwystr yn y bibell

Ym mis Mehefin, bu'n rhaid i rai pobl - gan gynnwys rhai a oedd yn cysgodi rhag Covid-19 - gael eu symud o'u cartrefi yn dilyn llifogydd.

Ar y pryd cafodd ymchwiliad ei gychwyn gan gyngor Rhondda Cynon Taf.

Ddydd Mercher cadarnhaodd y cyngor fod problemau gyda "charthffosiaeth" wedi arwain at orlifo mewn dau eiddo yn "yr un lleoliad â'r blynyddoedd blaenorol".

Dywedodd Dŵr Cymru ei fod wedi ymchwilio a dod o hyd i rywfaint o lifogydd o amgylch eiddo ar Heol y Frenhines ac Treharne Street gerllaw.

"Achoswyd hyn gan rwystr yn y bibell garthffosiaeth gyfagos ond ni aeth y llifogydd i mewn i'r eiddo," meddai llefarydd.

"Mae'n ymddangos bod y rhwystr wedi'i achosi gan eitemau amhriodol yn cael eu taflu i lawr y tŷ bach ac i'r system garthffosiaeth.

"Dyma pam mae'n bwysig na ddylai pobl gael gwared ar eitemau i lawr y toiled ac y dylid eu rhoi mewn bin."

Ffynhonnell y llun, Shelley Rees-Owen
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cynghorydd lleol, Shelley Rees-Owen mae pobl yn poeni beth allai ddigwydd pan ddaw'r gaeaf

Dywedodd Cynghorydd Pentre, Shelley Rees-Owen iddi gael ei rhybuddio am adroddiadau o lifogydd yn Stryd Treharne a Heol y Frenhines tua 15:00 ddydd Merch

Dywedodd bod yn rhaid i ddiffoddwyr tân fynd trwy gartrefi pobl i bwmpio'r dŵr i ffwrdd a bod carthffosiaeth a llifogydd yn y gerddi.

"Yr hyn sy'n hollol dorcalonnus yw bod cwpl o'r tai yma wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar a dim ond yr wythnos diwethaf roedd un preswylydd wedi cael llawr newydd i'w chegin," meddai.

"Roedd y digwyddiad yn wahanol iawn i'r llifogydd eraill maen nhw wedi'u cael yno, ond mae pobl mewn strydoedd cyfagos yn poeni'n fawr.

"Mae pobl wedi dychryn, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu, mae pobl yn poeni'n fawr am y tywydd a'r draeniau."