Llifogydd: Dŵr Cymru'n cynnig £1,000 i drigolion pentref

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Cymuned Trehafod
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cynnig help i'r rheiny sydd ei angen yng Nghanolfan Cymuned Trehafod

Mae Dŵr Cymru wedi cynnig £1,000 i thua 40 o drigolion pentref yn Rhondda Cynon Taf gafodd ei daro'n wael gan lifogydd.

Mae'r cwmni wedi cynnig yr arian a help ychwanegol i rai cartrefi yn Nhrehafod yn dilyn Storm Dennis y penwythnos diwethaf.

Daw wedi i orsaf ddŵr gerllaw gael ei "orlwytho" yn y tywydd garw.

Dywedodd Dŵr Cymru nad ydyn nhw'n gyfrifol am y llifogydd, a'u bod yn hytrach yn "gweithio gyda'r cwsmeriaid hyn i'w helpu yn yr amgylchiadau anodd yma".

'Arian argyfwng'

Mae'r cynnig yn cynnwys £1,000 o "arian argyfwng", £200 arall - gwerth bil carthffosiaeth am flwyddyn - a'r cyfle i wneud cais am golledion yn y cartref ar yswiriant Dŵr Cymru i'r rheiny sydd ddim ag yswiriant eu hunain.

Fe wnaeth Storm Dennis daro dros 1,000 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn glaw trwm yr wythnos ddiwethaf.

Mewn llythyr at drigolion sy'n gymwys i wneud cais am yr arian, dywedodd Dŵr Cymru ei fod wedi cynnal ymchwiliad i orsaf ddŵr gerllaw oedd wedi'i "orlwytho".

Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Rydyn ni wedi ysgrifennu at rai cwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yn Nhrehafod i egluro bod yr orsaf ddŵr... wedi gweithredu fel yr oedd wedi'i ddylunio ond ei fod wedi'i orlwytho gan y llifogydd.

"Nid iawndal yw'r gefnogaeth yma, am nad ydym ni'n gyfrifol am y llifogydd, ond rydyn ni'n gweithio gyda'r cwsmeriaid hyn i'w helpu yn yr amgylchiadau anodd yma."