Cyngor yn bygwth erlyn dynes dros furlun Tryweryn

  • Cyhoeddwyd
Sian Thomas-Ford a'i ffrindiau o flaen y murlunFfynhonnell y llun, Yes Cymru Maesteg
Disgrifiad o’r llun,

Fe beintiodd Sian Thomas-Ford (ail ar y chwith) y murlun ar ôl i un Llanrhystud gael ei ddifrodi

Mae dynes wedi cael gorchymyn i dynnu murlun sy'n deyrnged i'r arwydd "Cofiwch Dryweryn" oddi ar ochr ei thŷ.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrth Sian Thomas-Ford bod angen iddi gael gwared ar y murlun, sydd wedi cael ei beintio ar ochr ei thŷ ym Maesteg, neu fe fydd hi'n cael ei herlyn.

Mae'r murlun gwreiddiol yn Llanrhystud, Ceredigion yn nodi achlysur boddi pentref Capel Celyn yng Ngwynedd yn 1965 i greu cronfa ddŵr Tryweryn.

Dywed y cyngor fod y murlun ym Maesteg yn tynnu sylw gyrwyr, ond dywed Ms Thomas-Ford nad oes ganddi "unrhyw fwriad" i'w symud.

Cafodd y murlun ei beintio yng ngwanwyn 2019, wedi'i ysbrydoli gan achos o fandaleiddio'r graffiti adnabyddus ar ochr y ffordd yn Llanrhystud.

I ddechrau, roedd y deyrnged ym Maesteg yn cynnwys y geiriau 'Yes Cymru', sef yr ymgyrch wleidyddol dros annibyniaeth Cymru.

Dywedodd y cyngor wrth Ms Thomas-Ford fod angen caniatâd cynllunio arni oherwydd ei bod yn cael ei hystyried yn hysbyseb.

Fe wnaeth hi ddileu'r geiriau 'Yes Cymru', ond derbyniodd lythyr pellach gan y cyngor ym mis Medi, gan ddweud bod yr adran briffyrdd yn barnu bod y darlun yn "tynnu sylw gyrwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Yr achos yma o fandaleiddio'r gofeb gwreiddiol yng Ngheredigion wnaeth sbarduno'r murlun ym Maesteg

Mae'r llythyr diweddaraf, a gafodd ei anfon ym mis Gorffennaf, yn rhybuddio Ms Thomas-Ford y bydd yn cael ei chymryd i'r llys os na fydd yn peintio dros y murlun o fewn 21 diwrnod.

Dywedodd fod hyn wedi gwneud iddi deimlo'n "eithaf pryderus".

"Dwi erioed wedi bod yn y llys yn fy mywyd," meddai wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Mae dros 1,300 o bobl wedi llofnodi deiseb o blaid cadw'r murlun.

Gweithred 'ddigydymdeimlad'

Mae cynghorydd Plaid Cymru lleol, Timothy Thomas, wedi annog yr awdurdod lleol, sydd dan arweinyddiaeth aelodau Llafur, i ddysgu gwers yn dilyn achos cynharach dros furlun tebyg ar ochr siop losin.

"Drwy awgrymu bod y murlun yn hysbyseb mae'n weithred ddigydymdeimlad iawn tuag at yr ystyr ddiwylliannol a hanesyddol y tu ôl i'r graffiti," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor ei bod yn ofynnol iddo ymchwilio "gyda'r un gwrthrychedd diduedd ag y byddem yn ei roi i unrhyw hysbyseb anawdurdodedig arall".

"Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi rhoi cyngor addas i berchennog y tŷ, a byddwn yn ymweld â'r lleoliad i'w archwilio ymhellach," ychwanegodd.