Heddlu'n trin difrod cofeb Tryweryn fel trosedd casineb
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn trin difrod i wal ble mae cofeb answyddogol i Dryweryn fel trosedd casineb.
Mae'r heddlu wedi gosod camera cylch cyfyng ger y safle oddi ar ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.
Dywedodd y llu y byddai'r camera ar y safle dros dro, gyda'r sefyllfa yn cael ei hadolygu maes o law.
Fore Sadwrn diwethaf daeth i'r amlwg bod rhan o'r wal, sydd wedi cael ei pheintio gydag arwydd i gofio boddi Cwm Celyn, wedi ei dymchwel.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyma oedd y trydydd tro mewn llai na blwyddyn i'r wal gael ei difrodi ac mae ymgyrchwyr yn dweud fod angen gwneud mwy i'w diogelu.
Cafodd y rhan o'r wal a gafodd ei dymchwel ei hail godi brynhawn Sadwrn.
Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad nos Wener neu'n gynnar fore Sadwrn i gysylltu â nhw.
Mwy o gofebau?
Yn dilyn y digwyddiadau dros y dyddiau diwethaf, mae ambelll i gofeb newydd wedi ymddangos, fel y rhai yma:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019