Rownd a Rownd yn gorfod addasu i ailddechrau ffilmio
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfres sebon Rownd a Rownd bellach wedi ailddechrau ffilmio, ond yn ôl y cynhyrchydd gweithredol mae newidiadau sylweddol wedi gorfod digwydd ar gyfer darlledu ym mis Medi.
Mae cwmni Rondo wedi gorfod symud llawer o'r gwaith i leoliadau newydd ac wedi gorfod adeiladu setiau yn lle defnyddio tai preifat.
"Doedd hi ddim wedi bod yn bosib ffilmio ers ganol Mawrth," meddai Bedwyr Rees, "ond ry'n ni bellach wedi dechrau ffilmio ddydd Llun diwethaf ar gyfer rhaglenni fydd yn cael ei darlledu yn yr hydref."
Ychwanegodd mai'r her fwyaf oedd yr un ymarferol, ond hefyd mae'r sgriptiau wedi gorfod cael eu newid yn sylweddol.
Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd: "'Dan ni bellach mewn tri lleoliad - ym Mhorthaethwy, yng Nghaernarfon a 'dan ni wedi cymryd lleoliad newydd yn Llangefni.
"Cynt roedd pob dim ym Mhorthaethwy. Roedd gynnon ni broblem go fawr gan ein bod yn defnyddio tai preifat yn hytrach na setiau - 'dan ni rŵan wedi gorfod adeiladu y tai preifat yna fel setiau. 'Dan ni wedi dymchwel rhai setiau, tynnu waliau a helaethu setiau.
"Y prif beth wneith y gwylwyr sylwi yw mai dim ond cerddwyr a chadeiriau olwyn fydd yn yr ardal o flaen ein prif setiau - y caffi a'r siop. Bydd gan y caffi fyrddau tu allan, bydd y siop yn gwerthu llysiau ac fe fydd gan y lle pizza fyrddau tu allan hefyd.
"'Dan ni wedi symud llawer iawn tu allan lle mae hi'n llawer diogelach."
'Dim Covid yn y straeon'
Ychwanegodd Mr Rees bod y sgriptiau wedi gorfod cael eu newid, wrth reswm, ond bod yna benderfyniad wedi cael ei wneud i beidio cynnwys coronafeirws yn y straeon.
"'Dan ni wedi bod yn ymwybodol bod gynnon ni gynulleidfa ifanc ac mi benderfynwyd nad oedden ni'n mynd i gynnwys Covid yn y straeon," meddai.
"'Dan ni'n teimlo ein bod ni isio cyflwyno elfen o ryddhad a rhywbeth ar wahân i Covid i'n cynulleidfa ond mae'r canllawiau yn newid a bydd yn rhaid i ni addasu wrth fynd yn ein blaenau.
"Os ydy gwisgo masgiau yn dod yn orfodol mewn siopau yng Nghymru 'dan ni mewn peryg o adlewyrchu byd sy'n gwbl afreal ond mater o ddysgu wrth fynd yn ein blaenau yw'r cyfan - mae'n fater hollol newydd i bob un ohonom.
"Straeon y love triangle yw straeon opera sebon wrth gwrs - byddwn yn parhau gyda'r math yna o straeon ond y tro hwn bydd y sgriptiau yn awgrymu llawer mwy o'r stori.
"Dan ni'n eithriadol o falch ein bod ni'n ôl yn ffilmio. Yn wreiddiol 8 Medi'r roeddan ni fod i ddychwelyd ac felly 'dan ni wedi gallu cadw ein haddewid i'r gwylwyr.
"Mae gan bob un ohonom awch gwirioneddol i wneud y cyfan i weithio - mae pawb isio iddo weithio ac ry'n ni gyd yn edrych ymlaen," meddai Mr Rees.
Ddechrau'r wythnos cyhoeddwyd y bydd Pobol y Cwm yn ailddechrau ffilmio ddydd Llun nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2016
- Cyhoeddwyd9 Medi 2016