Label arbennig i warchod peillwyr yn ein gerddi

  • Cyhoeddwyd
arwyddFfynhonnell y llun, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tyfwyr a phlanhigfeydd yn defnyddio logo 'Achub Peillwyr' fel bod prynwyr yn gwybod nad ydyn nhw'n niweidiol i'r trychfilod

Mae cynllun labelu wedi ei lansio er mwyn gwarchod gwenyn a thrychfilod eraill sy'n peillio planhigion rhag planhigion sy'n cynnwys pryfladdwyr.

Dywed Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru bod "twf aruthrol mewn garddio" yn y cyfnod clo wedi gweld pobl yn ddiarwybod yn prynu planhigion sydd â chemegau arnynt sy'n wenwynig i beillwyr.

Bydd eu labelau newydd yn gwarantu bod planhigion heb unrhyw bryfladdwyr synthetig arnyn nhw, ac yn cael eu tyfu mewn compost sydd heb fawn.

Eisoes mae 23 o dyfwyr a phlanhigfeydd wedi ymuno gyda'r cynllun.

Bydd y cynllun 'Achub Peillwyr', a sefydlwyd gyda'r Prosiect Tyfu'r Dyfodol, hefyd yn defnyddio ymchwil yr Ardd Fotaneg sydd wedi bod yn edrych ar ba blanhigion y mae amryw fathau o wenyn yn ymweld â nhw.

Dywedodd Dr Natasha de Vere o'r Ardd: "Mae'r cyfnod clo wedi gweld twf aruthrol mewn garddio, a llawer mwy yn treulio mwy o amser yn prynu planhigion heb sylweddol y gallai'r planhigion hynny gynnwys olion o bryfladdwyr synthetig sy'n niweidiol iawn i beillwyr ac i'r amgylchedd."

Ffynhonnell y llun, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na 20 o dyfwyr a phlanhigfwydd wedi ymuno gyda'r cynllun

Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y cynllun yn dweud mai dyma tro cyntaf i arddwyr fedru prynu planhigion sydd yn sicr o fod yn dda i wenyn a pheillwyr eraill.

Nod arall yw ceisio atal y cwymp yn nifer y peillwyr, ac i fod yn fuddiol i fywyd gwyllt arall megis draenogod a llyffantod.

Ychwanegodd Dr de Vere bod hynny'n golygu fod rhai bwydydd megis ffrwyth, cnau, coffi a siocled yn mynd yn fwy prin, gydag adroddiadau o'r Unol Daleithiau bod diffyg peillwyr yn lleihau'r cnydau.

"Y peth da am ofalu am y peillwyr yw ei fod yn y bon yn edrych ar ôl ein hunain," meddai.

Gobaith yr Ardd Fotaneg yw y bydd y cynllun labelu yn cael ei ymestyn i rannau eraill o'r DU yn y dyfodol, a galwodd ar y diwydiant garddio i "gymryd sylw".