Cyngor i arddwyr newydd cyfnod y coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Gan ei bod hi'n wanwyn a mwy o bobl yn treulio amser yn yr ardd oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, mae mwy a mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn garddio ac efallai angen ychydig o gyngor.
Fe fu'r arddwraig Carol Williams yn ateb cwestiynau gwrandawyr Radio Cymru ar raglen Post Cynta' gan sôn am ei grŵp newydd Garddio Corona, dolen allanol ar Facebook.
"Mae o'n fforwm i bobl rannu eu syniadau, jôcs a tips a gofyn cwestinau," meddai Carol. "Mae 'na lot fawr eleni yn garddio am y tro cyntaf sydd yn grêt - dwi wedi bod yn gweiddi am y peth ers blynyddoedd - ond rŵan mae pawb yn rhoi ryw go bach arni."
Dyma chwech tip gan Carol i helpu i droi'ch gardd, dim ots pa mor fach, yn balas i blanhigion dros y dyddiau braf nesaf:
1.Dyfrio'n dda
Gyda'r tywydd ar hyn o bryd mor braf, mae'r ddaear yn eitha sych felly mae'n bwysig rhoi digon o ddŵr i'r planhigion. Gyda'r nos yw'r amser gorau i ddyfrio gan fod planhigion yn amsugno mwy o'r dŵr bryd hynny
"Os ydych chi'n dyfrio yn y bore mae'r haul yn dod allan ac yn ei sychu lot cynt na gyda'r nos. Maen nhw'n charjio eu hunain dros nos, felly'n cymryd lot mwy o'r dŵr."
Cofiwch hefyd ddyfrio yn iawn, nid ychydig ddiferion sy'n gwlychu wyneb y pridd, ond gwneud yn siŵr ei fod yn treiddio i'r pridd. Ac os oes gennych chi gasgen sy'n casglu dŵr glaw, mae hwnnw'n well i'w ddefnyddio.
2.Iard neu ardd fach
Roedd Colin o Gaernarfon eisiau gwybod beth fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio'r waliau i blannu yn ei iard gefn fechan.
Pellter o'r wal: Os ydych chi'n plannu unrhyw beth wrth droed wal gwnewch yn siŵr eich bod yn ei blannu tua dwy droedfedd oddi wrth gwaelod y wal neu fe fydd y wal sych yn amsugno llawer o'r dŵr o'r pridd.
Hefyd fe allai wal tŷ gysgodi planhigion a'u stopio rhag cael ddigon o ddŵr pan mae'n glawio os ydyn nhw'n rhy agos.
Clematis: Mae planhigion fel clematis yn dda meddai Carol gan fod na fath o glematis i dyfu ym mhob man. Ond maen nhw'n hoffi cael eu plannu yn ddwfn iawn.
"Maen nhw'n licio'u gwreiddiau mewn dipyn o gysgod felly os ydych chi'n eu plannu yn y ddaear, rhoi llechi neu rhywbeth dros y gwreiddiau ar dop y pridd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cadw yn reit llaith ac yn y cysgod."
Coeden afal: Os ydych chi eisiau plannu rhywbeth i'w fwyta mi fedrwch chi roi coed afalau, sydd hefyd yn addurniadol iawn - yn enwedig coed afalau'r crabaitsh - y crab apple. Fyddech chi ddim yn bwyta'r afalau ond gallwch wneud jeli ohonyn nhw, awgryma Carol. Mae'r blodau arnyn nhw yn hyfryd a gallwch wneud i'r canghennau dyfu i siâp ffan.
Tomatos: Gallwch blannu tomatos mewn potiau tu allan ar wal gynnes, meddai Carol, yn enwedig yn y tywydd yma - ond dim eto.
"Mae'n rhy gynnar i'w rhoi nhw allan ar hyn o bryd ond fel eith y tymor yn ei flaen, eu rhoi nhw mewn potiau go fawr a digon o ddŵr iddyn nhw.
"Pan ydych chi'n eu plannu nhw mae'n syniad i chi roi potyn gwag wrth ochr y planhigyn i fewn yn ddwfn yn y pot, neu hen botel blastig a'r gwaelod wedi ei dorri oddi arni. Pan ydych chi'n dyfrio bydd y dŵr yn mynd lawr i waelod y planhigyn fel eu bod nhw wedyn yn gallu ei amsugno i fyny yn dda."
Perlysiau - a bod yn greadigol gyda photiau: Mae perlysiau yn dod yn dda mewn lle sych felly fe ddylen nhw fod yn opsiwn da ar wal. Gallwch eu tyfu mewn potiau heb fod yn rhy ddwfn, neu fod yn fwy creadigol.
"Os oes gennych chi hen balet, mi fedrwch chi roi cefndir plastig iddo, rhoi tyllau yn hwnnw a'i godi i fyny," awgryma Carol.
"Mae planhigion salad yn dod yn grêt yn y math yna o gontainer ac os oes gynnoch chi hen landars, [maen nhw'n] grêt ar gyfer plannu mefus ynddyn nhw, mae'r mefus wedyn yn hongian dros yr ochr ac mi fedrwch chi hongian rheiny ar y wal."
3.Pryd i blannu ffa allan?
Mae hi'n dal ychydig yn gynnar i blannu ffa dringo allan o'r tŷ gwydr neu'r tŷ meddai Carol.
"Mae ffa dringo yn gallu bod yn bethau bach digon touchy felly eu cadw nhw i mewn ar hyn o bryd ac os ydych chi eisiau dechrau mynd â nhw allan rydych chi eisiau gwneud yn siŵr nad ydi hi ddim yn rhewi o gwbl - os gawn nhw rywfaint o rew - ac mae'n bosib gewn ni'n dal rywfaint o rew - mi gawn nhw eu lladd a'u difa.
"Felly eu cadw nhw i fewn ar hyn o bryd - cerwch a nhw allan yn ystod y dydd a dod â nhw i fewn i gysgod dros nos"
4. Diffyg nitrogen a gwrtaith naturiol
Mae nifer o blanhigion yn dioddef o hyn ar ôl y gaeaf gwlyb gan wneud iddyn nhw edrych yn "felyn ac yn ddi-ffrwt," meddai Carol.
Mae modd prynu cemegau i roi nitrogen yn ôl i'r planhigion ond mae yna atebion naturiol hefyd ac mae Carol yn awgrymu gwneud hylif o ddanadl poethion os ydych chi eisiau bod yn organig.
"Mae o'n andros o stwff da, ond mae o'n drewi, bobl bach!
"Os oes ganddoch chi hen net, fel y rhai rydych chi'n cael llysiau ynddyn nhw, rhoi dail danadl poethion i mewn yn hwnnw, ei roi i gyd mewn bwced a charreg drosto a gadael iddo nes mae'n torri i lawr.
"Mae'n cymryd o bosib ryw 10 wythnos neu fwy. Wedyn ei hidlo - mae'n haws os ydio mewn net, Mi fedrwch chi dynnu'r dail a'i luchio fo i'r compost... mae'r stwff sydd gen ti wedyn yn briliant. Rydych chi'n rhoi un darn [o'r hylif] efo 10 darn o ddŵr i'ch can dyfrio."
Bydd angen dyfrio mwy nag unwaith os yw'r broblem yn ddrwg. Mae halen Epson hefyd yn gweithio meddai Carol.
5. Pridd a chompost
Os ydi rhywun wedi bod yn casglu pridd ar gyfer creu borderi newydd, oes angen ychwanegu rhywbeth fel tail neu gompost iddo cyn plannu? Dyna oedd cwestiwn Helen Jones o Uwchaled sydd wedi casglu pridd i'w border o dwmpathau tyrchod daear [gwadd].
"I gadw pethau'n iach mi faswn i bob amser, os oes gennoch chi ddail wedi eu pydru lawr yn dda, yn ychwanegu hwnnw i'r borderi, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn, ac unrhyw fath o wrtaith.
"Mae gwrtaith tail ieir a blood fish andbone yn grêt - mae'r rheiny yn bethau reit organig a maen nhw'n torri lawr yn ara deg a'r planhigion yn gallu cymryd y mwynau i fyny.
"Felly po fwyaf o dda rydych chi'n ei roi yn eich pridd, gorau'n byd fydd eich planhigion chi."
6. Malwod
Mae malwod yn gallu bod yn broblem yr adeg yma o'r flwyddyn gan fod na gymaint o blanhigion ifanc blasus iddyn nhw, fellu sut mae gwarchod eich planhigion newydd?
Mae Carol yn gwneud potes o garlleg i'w cadw nhw draw, yn enwedig gyda blodau hosta a phlanhigion ifanc.
"Cymryd clôf cyfan o garlic a'i ferwi mewn hanner peint o ddŵr. Pan mae wedi oeri, ei hidlo fo a'i ddefnyddio mewn chwistrell. Mi fydda' i'n ei wanhau i un ddarn o botes i 10 ddarn o ddŵr."
Gallwch ei chwistrellu o gwmpas y pridd lle mae'r planhigyn yn tyfu.
"Mae lot o bobl yn dweud y medri di roi pethau fel grit o gwmpas dy blanhigion di; fedri di gael tâp copr i roi rownd y potiau; a mae rhai yn defnyddio WD40 i nadu malwod a hefyd Vaseline ar y potiau. Mae hynny'n gallu bod yn help. Neu wrth gwrs, mi fedrwch chi fynd allan fin gyda'r nos efo torch a'u hel nhw i gyd i fwced!"
Ond y prif gyngor gan Carol yw mwynhau.
"Beth sydd eisiau i bawb gofio ydy mai dim cystadleuaeth ydi hyn: cyn belled â'ch bod chi'n cael mwynhad allan ohona fo, dyna ydi garddio - os oes gennych chi blot enfawr neu botyn bach - mae'r mwynhad yn medru bod yr un mor fawr i bawb."
Hefyd o ddiddordeb: